Dyffryn Teifi - Cyfle i wneud 'gwahaniaeth arwyddocaol'

Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn ardal Dyffryn Teifi wedi galw ar Carwyn Jones i ymyrryd yn uniongyrchol drwy alw ar Gyngor Ceredigion i beidio gwerthu safle Ysgol Dyffryn Teifi ar y farchnad agored, ond yn lle hynny i gynnig cymorth ymarferol mewn ymgynghoriad llawn gyda phobl leol am sut i ddatblygu'r ased er lles a pharhad y gymuned Gymraeg hon.
Mewn neges at y Prif Weinidog mae Cen Llwyd yn tynnu sylw at y ffaith i'w Lywodraeth  wedi penodi Dyffryn Teifi yn ardal Twf Lleol fel rhan o strategaeth i ddatblygu'r ardal oherwydd ei phwysigrwydd i'r Gymraeg.  Yn ôl Cyfrifiad 2011, Llandysul oedd y ward â'r nifer mwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Ngheredigion.

Dywedodd Cen Llwyd, is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith sydd hefyd yn byw yn lleol ac yn gadeirydd bwrdd llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Teifi nes yn ddiweddar:
"Penodwyd Dyffryn Teifi yn ardal twf yn 2013 gan Lywodraeth Cymru ond ers hynny rydyn ni wedi colli nifer o wasanaethau fel banciau a swyddfeydd y Cyngor, ac mae eraill dan fygythiad nawr. Ai geiriau gwag oedd y sôn am greu ardal twf er mwyn y Gymraeg neu a fyddan nhw'n gweithredu? Oes bwriad gan y Llywodraeth i ddal ar y cyfle hwn i gynnig cymorth i'r Awdurdod Lleol a gwneud yn fawr o'r parodrwydd lleol i ddiogelu safle'r hen ysgol fel adnodd cymunedol? Dylai'r Llywodraeth a'r Awdurdod Lleol weithio gyda'i gilydd er mwyn gwireddu potensial y fenter gymunedol gyffrous hon."

Darllenwch y llythyr llawn yma