Mae dros saith deg y cant o bobl Cymru eisiau gweld penderfyniadau am dargedau tai yn cael eu gwneud yn lleol, ac yn seiliedig ar anghenion lleol, yn hytrach nag yng Nghaerdydd, yn ôl canlyniadau arolwg barn YouGov a gafodd eu rhyddhau heddiw (Dydd Mawrth, 2ail Rhagfyr).
Roedd 72% o'r bobl a holwyd yn yr arolwg, a gafodd ei gomisiynu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn cytuno y "dylai cynghorau lleol osod targedau tai yn seiliedig ar anghenion eu hardal leol", gyda dim ond 11% yn meddwl y dylai awdurdodau cenedlaethol Cymreig wneud y penderfyniadau. Roedd cefnogaeth gadarn dros bwerau lleol ymysg pob grŵp oedran, cefnogwyr pob plaid ac ym mhob ardal o'r wlad.
Mae'r grŵp pwyso yn dadlau bod gorgyflenwad o dai nad ydynt yn fforddiadwy i'r boblogaeth leol, a bod hynny wedi cael effaith andwyol ar y Gymraeg ar lefel gymunedol. Dangosodd ymchwil a gomisiynwyd gan Fwrdd yr Iaith yng Nghonwy yn 2011 bod y nifer o dai a gafodd ei adeiladu yn yr ardal honno wedi arwain at ddirywiad iaith sylweddol.
Dywedodd Tamsin Davies, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: "Mae'n gwbl glir bod pobl Cymru yn cefnogi ein safbwynt bod angen system gynllunio sy'n llawer agosach at bobl. Yn anffodus, mae Bil Cynllunio'r Llywodraeth, mewn nifer fawr o ffyrdd, yn canoli grym yn bellach oddi wrth bobl. Yn y cynigion rydyn ni'n eu cyhoeddi heddiw, rydyn ni'n amlinellu gweledigaeth arall, o sefyllfa lle mae penderfyniadau yn cael eu gwneud yn lleol, gyda rôl lawer fwy i gynghorau cymuned ac awdurdodau lleol. Mewn cyfarfod gyda ni, fe gyfaddefodd prif gynllunydd Llywodraeth Cymru bod gan awdurdodau obsesiwn gyda'r ystadegau am y twf poblogaeth cenedlaethol. Nawr yw'r amser iddyn nhw ddatrys y broblem honno drwy sefydlu cyfundrefn newydd sydd ond yn ystyried anghenion lleol.
Daw'r newyddion wrth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg lansio ei Fil Cynllunio amgen yn y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw (12:30pm), sy'n cynnig dileu dylanwad Llywodraeth Cymru, yr Arolygiaeth Gynllunio a'r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol dros dargedau tai. Mae Bil Cynllunio'r Llywodraeth yn cynnwys cynigion i Weinidogion wneud mwy o benderfyniadau cynllunio, megis datblygiadau tai, yn hytrach na chynghorau, a sefydlu paneli rhanbarthol.
Yn siarad o Ferthyr Tudful, ychwanegodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Jamie Bevan: "Mae'n galonogol iawn gweld bod pobl yn cytuno gyda ni, a byddwn yn parhau i bwyso ar i'r Llywodraeth roi lle canolog i'r Gymraeg, ac i drefn fydd yn llesol iddi, yn y ddeddfwriaeth. Mae gwir angen i'r Bil adlewyrchu anghenion unigryw Cymru er mwyn gwella'r amgylchedd, er mwyn cryfhau'r Gymraeg, ac er mwyn taclo lefelau tlodi. Ofer yw dynwared system sy'n bodoli yn Lloegr, gallai e fod yr hoelen olaf yn arch ein cymunedau Cymraeg fel arall."
Canlyniadau'r Arolwg Barn:
Pa un o'r canlynol sydd agosaf i'ch barn chi? |
|
Dylai cynghorau lleol osod targedau tai yn seiliedig ar anghenion eu hardal leol |
72 |
Dylai awdurdodau canolog Cymreig osod targedau i gynghorau lleol yn seiliedig ar anghenion cenedlaethol |
11 |
Dim un o'r uchod |
5 |
Ddim yn gwybod |
12 |
Cliciwch yma am y manylion llawn