Dyw ychydig bach ddim digon da - Her i Tesco a Llywodraeth Cymru

Ble mae'r Gymraeg?Am 2.yp, heddiw bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal protest tu allan i gangen yr Wyddgrug o archfarchnad Tesco yn galw ar y cwmni i fabwysiadu nifer o fesurau penodol a fydd yn sicrhau bod eu canghennau ledled Cymru yn cynnig mwy na'u defnydd tocenisitig presennol 'r Gymraeg.

Yn dilyn y brotest gorymdeithiodd yr aelodau drwy'r Wyddgrug at faes yr Eisteddfod lle cyflwynwyd dystiolaeth o'r angen am ddeddf iaith newydd i Rhodri Glyn Thomas ar ran Llywodraeth y Cynulliad.Galwodd y Gymdeithas ar i Tesco fabwysiadu polisi dwyieithog cynhwysfawr, yn cynnwys sicrhau bod eu holl arwyddion parhaol a thros-dro, cyhoeddiadau system sain, taflenni hyrwyddo a phecynnu cynnych eu hunain yn gwbwl ddywieithog. Yn ogystal, galwodd y Gymdeithas arnynt i sicrhau bod cyfle gan eu holl weithwyr i ddysgu Cymraeg fel eu bod yn meithrin gweithlu dwyieithog a all gynnig gwasanaeth dwyieithog i'r cyhoedd.Dywedodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg,"Mae Tesco yn un o'r cwmniau mwyaf sydd yn masnachu yng Nghymru, ac yn gwmni sydd yn gwneud elw enfawr o ganlyniad i'r llu o archfarchnadoedd sydd ar hyd a lled y wlad. Er hyn, tocenistiaeth yn unig yw ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg, mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn iaith gymunedol naturiol, yn ogystal a mewn ardaloedd lle y byddai gwasanaeth cyfrwg Cymraeg yn hwb enfawr i ymwybyddiaeth ac anogaeth lle mae'r iaith ar gynnydd. Cred Cymdeithas yr Iaith y dylai fod gan bawb yng Nghymru yr hawl i ddefnyddio'r iaith ymhob agwedd ar fywyd. Mae Tesco yn fodlon gwneud defnydd tocenistig o'r Gymraeg ar ambell i arwydd, ond maent yn gwneud eu holl waith difrifol a gwyneb yn wyneb trwy gyfrwng y Saesneg. Maent wedi anwybyddu ein gohebiaeth ynglyn a hyn, felly rydym yn mynd a'r neges atynt yn uniongyrchol!"Cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith dystiolaeth i Lywodraeth y Cynulliad o'r angen am ddeddf iaith newydd. Cafodd deunydd marchnata uniaith Saesneg o ganghennau Tesco ledled Cymru ei gyflwyo i Rhodri Glyn Thomas ar Uned Llywodraeth y Cynulliad ar faes yr Eisteddfod, er mwyn dangos bod polisi presennol Bwrdd yr Iaith Gymraeg o defnyddio perswad wedi methu.Mae cyflwyno deddf iaith newydd yn ymrwymiad a gynhwysir yn nogfen bolisi y glymblaid newydd rhwng Llafur a Phlaid Cymru, 'Cymru'n Un.' Cyyflwynodd y Gymdeithas lythyr i Rhodri Glyn Thomas AC yn galw arno i sicrhau fod unrhyw ddeddfwriaeth newydd, ar ba bynnag ffurf, yn cynnwys hanfodion Mesur Iaith 2007 Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.Dywedodd Rhun Emlyn, Cadeirydd Grwp Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith,"Mae'n holl bwysig fod unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn cynnwys ymrwymiadau i roi statws swyddogol i'r iaith Gymraeg, ac i sefydlu swydd Comisiynydd Iaith a fydd a phwerau cryf a phendant i ymchwilio i mewn i engrheifftiau o sefydliadau a chwmnioedd yn gwrthod cydymffurfio a'r ddeddf. Yn ogystal, mae'n rhaid i ddeddfwriaeth newydd sefydlu hawliau i bobl Cymru gyfan weld a defnyddio'r iaith Gymraeg ymhob agwedd ar fywyd gan nad oes unrhyw rym gwirioneddol yn perthyn i gynlluniau iaith. Rhaid i'r ddeddf gwmpasu pob un sector, gan gynnwys y sector breifat. Byddai deddfwriaeth o'r fath yn cael ei gweithredu mewn modd incremental, - byddai disgwyl i gwmniau mawrion fel Tesco gydymffurfio yn syth, ond fe fyddai mwy o amser a chymorth ariannol ar fusnesau bychain, fel y siop sglodion ystrydebol y mae cymaint o son amdani. Dyma'r unig ffordd i sicrhau cenedl gwbl ddwyieithog, ac i sicrhau hawliau i bobl Cymru gyfan."