Am dri chwarter awr heddiw bu 50 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn protestio tu allan i Siop Morrisons yn Aberystwyth. Roedd presenoldeb cryf o'r heddlu yno a daeth y brotest i ben pan gyflwynodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, lythyr i reolwr y siop. Hon oedd yr ail mewn cyfres o dair protest yn erbyn Morrisons a gynhelir gan y Gymdeithas.
Cynhaliwyd y cyntaf yng Nghaerfyrddin ar Dachwedd 24 a bydd y drydedd yn cael ei chynnal ym Mangor ar Ragfyr 8fed. Roedd y brotest yn Aberystwyth heddiw yn digwydd ychydig ddyddiau cyn y cyfarfod ar Ragfyr 5ed rhwng Cymdeithas yr iaith Gymraeg a'r Gweinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas. Yr angen am Ddeddf Iaith gryfach fydd testun y drafodaeth yn y cyfarfod hwnnw.Dywedodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac arweinydd y brotest heddiw:"Yr ydym mewn gwirionedd yn gofyn am statws swyddogol i'r Gymraeg, am hawliau sylfaenol i siaradwyr Cymraeg i dderbyn gwasanaethau yn neu hiaith, yr hawl i weithwyr ddefnyddio'r iaith yn y gweithle a sefydlu Comisiynydd fyddai â'r gwaith o amddiffyn hawliau ieithyddol siaradwyr Cymraeg".Dywedodd Hywel ymhellach ynglyn a'r brotest yn erbyn Morrisons. Yr ydym am weld pwerau'r Ddeddf iaith Newydd yn ymestyn i'r sector breifat. Dyna pam yr ydym yn targedu cwmniau fel hyn.Cyfarfu cynrhychiolwyr y Gymdeithas gyda Chris Blundell, aelod o Bwyllgor Gweithredol Morrisons ar 11eg o Fehefin 2007 i drafod a phwyso am statws cyfartal i'r Gymraeg.Bu ail gyfarfod lle gwnaed addewid gan Morrisons y byddent mewn sefyllfa erbyn Hydref 2007 i ail-frandio un o'i siopau yng Nghymru fel siop brawf yn y ffyrdd mwyaf syml:* Arwyddion parhaol dwyieithog tu fewn a thu fas y siop* Cyhoeddiadau dwyieithog dros yr uchelseinydd* Hyfforddiant Cymraeg i'r staff ar gyfer defnydd yn y siop* Datblygu cynnyrch Cymru* Gwneud y rhan berthnasol o'r wefan yn ddwyieithogRoeddent hefyd wedi addo cysylltu gyda Cymdeithas yr Iaith a chyrff eraill a'r cyhoedd i fesur ymateb i'r siop brawf dwyieithog cyn estyn y polisi i'w siopau drwy Gymru fel rhan o'u hail-frandio. Cafwyd addewid y byddent erbyn yr Hydref yn ymateb i'r gofynion canlynol gan y Gymdeithas:* Y byddai'r holl daflenni a phosteri wythnosol i hyrwyddo Morrisons yn defnydio'r Gymraeg, ac* Y byddai'r labeli ar gynnyrch Morrisons yn ddwyieithog (yn dilyn y norm aml-ieithog ar gyfandir Ewrop) gan gychwyn gyda'u cynnyrch hunan-frand eu hunain (7,000 ohonynt, yn gyntaf y rhai wedi'u gwneud yng Nghymru gan fod angen cynhyrchu labeli arbennig ar eu cyfer)Pwysleisiodd y Gymdeithas mai gweithredu ar y 2 fater olaf hyn fyddai'n golygu defnydd o ddifri o'r Gymraeg yn eu busnes; mae'r argymhellion gyntaf - er yn bwysig - yn fwy symbolaidd. Dywed Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed:"Gan nad yw Morrisons wedi glynu at eu gair rhaid i ni gasglu eu bod wedi torri eu haddewid. Dyna pam yr ydym yn protestio yn Aberystwyth y dydd Sadwrn hwn ac ym Mangor y dydd Sadwrn canlynol".