Ehangu Awdurdod S4C i wasanaeth ar-lein a mwy o sianeli teledu?

Dylai Awdurdod S4C fod yn gyfrifol am ragor o sianeli teledu, gorsafoedd radio a phlatfformau ar-lein Cymraeg - dyna fydd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn dadlau yn ystod trafodaeth heddiw ynglŷn ag adolygiad o'r darlledwr y flwyddyn nesaf.   

Wrth gyhoeddi ei dro-pedol  ar doriadau i gyllideb S4C eleni, yn dilyn ymgyrchu llwyddiannus gan garedigion y sianel, dywedodd Llywodraeth Prydain y byddai'n cynnal adolygiad o'r darlledwr yn 2017. Mewn cyfarfod ar faes yr Eisteddfod heddiw, bydd Huw Jones, cadeirydd S4C, a chadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn trafod yr adolygiad ynghyd â'r ffrae ynghylch is-deitlo Saesneg gorfodol ar y sianel. 

Yn siarad yn y digwyddiad, bydd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn dweud: 

"Mae'r adolygiad yn cynnig cyfle i S4C wneud naid fawr ymlaen. Aberthodd nifer yn fawr i sefydlu'r darlledwr, ond mae'n bryd i ni edrych ymlaen ac i fod yn fwy uchelgeisiol. Mae newid mawr wedi bod, ac yn parhau, o ran patrymau defnydd y cyfryngau. Wrth edrych at wledydd bychain eraill, mae'n glir bod y darlledwyr cynhenid, yng Ngwlad y Basg er enghraifft, yn cynnal gwasanaethau ar draws gwahanol blatfformau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd. Pam na ddylai Awdurdod S4C fod yn gyfrifol am ail sianel deledu, gwasanaeth radio a phlatfform arall ar-lein? Dyna fyddai'n naturiol i bob darlledwr arall ac allai fod yn ganlyniad adolygiad. Ac mewn gwlad ddatganoledig, oni ddylai ein Senedd yng Nghymru fod yn bennaf gyfrifol am osod y fframwaith i ddarlledu yn ein gwlad?   

"Rwy'n meddwl bod y ffrae ynghylch is-deitlau Saesneg ar y sianel yn tanlinellu'r cyfyngiadau wrth geisio darparu arlwy ar un sianel yn unig. Rydyn ni wedi croesawu'n frwd y sianel ar-lein newydd Pump sy'n dangos ein bod yn gallu cefnogi yn ogystal â barnu pan bod corfforaethau yn barod i fentro.  Nawr rydym yn frwd i weld S4C ehangu eu gorwelion mewn modd strategol. Nid amddiffyn un sianel yw nod Cymdeithas, ond gweld y Gymraeg ar bob platfform – cael popeth yn Gymraeg. Mae tystiolaeth o wledydd bychain eraill yn dangos mai darlledwyr cynhenid sydd â'r gallu i flaenoriaethu ac ehangu eu hunain, a hynny er lles eu hieithoedd brodorol nhw." 

Wrth sôn am ariannu'r darlledwr, mae disgwyl i Mr Bevan ddweud: 

Fe wnaeth y Ceidwadwyr addo 'diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C' yn eu maniffesto, felly dim ond cynyddu fydd y gyllideb. Nawr mae angen sicrwydd ariannol hir-dymor ar S4C – mae angen fformiwla ariannu mewn statud sy'n cynyddu, fan lleiaf, gyda chwyddiant. Mae S4C wedi bod yn allweddol i barhad y Gymraeg dros y degawdau diwethaf, ac mae'n rhaid sicrhau bod ganddi'r adnoddau, y sicrwydd a'r annibyniaeth sydd eu hangen er mwyn ei datblygu.”