Ein cymunedau a'r di-freintiedig sy'n cael eu gwasgu bob tro

Wrth ymateb i benderfyniad Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Gaerfyrddin i beidio blaenoriaethu Gwasanaethau Dysgu Caerfyrddin dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith:
“Rydyn ni'n deall bod llai o arian yn cael ei roi i'r cyngor ar gyfer gwasanaethau addysg oedolion ond mae'r cyngor wedi bod wrthi'n edrych ar y gyllideb yn ddiweddar ac yn bwriadu cwtogi ar wasanaethau eraill hefyd. Beth fydd yma ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol - pwy fydd eisiau byw yma, a phwy fydd yn gallu byw yma?”

Bydd y penderfyniad yn golygu na fydd costau cynnal a chadw ar gyfer canolfannau dysgu cymunedol Cennen yn Rhydaman, Glanaman na Felinfoel o ddiwedd mis Mawrth ac mai rhifyddeg, llythrennedd, llythrennedd cyfrifiadurol a Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill fydd yn cael eu blaenoriaethu.

Ychwanegodd Sioned Elin:
“ Addysg yn gyffredinol sy'n dioddef baich y cwtogi arfaethedig yn Sir Gâr, mae bwriad tynnu mwy na £18miliwn o'r gyllideb addysg dros y tair blynedd nesaf fydd yn golygu cau neu leihau oriau llyfrgelloedd, mae argymhelliad i godi tâl am fysiau ysgol, a nawr mae addysg oedolion yn dioddef. Bydd cau canolfannau yn golygu na fydd cyrsiau ar gael mor rhwydd. Yn ôl y cyngor ei hun mae 85% o'r oedolion yn y sir sy'n dilyn cyrsiau yn ddi-waith felly trigolion mwyaf difreintiedig y sir fydd fwyaf ar eu colled.
“Mae'r cwestiwn hefyd pam bod y Cyngor am flaenoriaethu Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd tramor. Wrth gwrs fod y rhan fwyaf i drigolion Sir Gâr yn siarad Saesneg ond Cymraeg yw iaith nifer o gymunedau ac er mwyn cynnwys mewnfudwyr yn y gymuned dylid rhoi'r un flaenoriaeth i'r Gymraeg a'r Saesneg.”

Daw hyn wythnos wedi i Gymdeithas yr Iaith ateb ymgynghoriadau mae cynghorau Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn eu cynnal ar eu cyllidebau ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Ymysg argymhellion mae  cwtogi ar wasanaethau llyfrgelloedd cangen yn Sir Gaerfyrddin a'r gefnogaeth i wasanaethau bws yn Sir Benfro. Mae ymateb Cymdeithas yr Iaith yn nodi:
“Gwasanaethau mewn cymunedau bach sy'n cael eu gwasgu bob tro ym mhob ardal, sydd yn ei gwneud yn fwyfwy anodd i bobl aros yn yr ardal i fyw a gweithio...Yn wyneb cwtogi felly rydyn ni'n galw ar y cyngor i adolygu gwasanaethau, ond wrth wneud hynny fod edrych yn hytrach na dim ond ar gost a gwerth am arian fod ystyried gwerth ac effaith y gwasanaethau ar y gymuned ac ar bobl y sir.”