Emyr Llywelyn i wrthod talu'r drwydded deledu er mwyn datganoli darlledu

Mae'r ymgyrchydd iaith blaenllaw Emyr Llywelyn wedi dweud ei fod yn ymuno â degau o bobl eraill i wrthod talu ei drwydded teledu fel rhan o ymgyrch i ddatganoli darlledu i Gymru. 

Cyn athro, cafodd Emyr Llewelyn ei garcharu am ei ran yn yr ymgyrch yn erbyn boddi Cwm Tryweryn ger y Bala, yn hwyrach etholwyd yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gan arddel y dull di-drais o ymgyrchu.  

Fis yn ôl, dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y byddai hi ac aelodau eraill y mudiad yn gwrthod talu ei thrwydded oni bai bod y Llywodraeth yn rhoi'r cyfrifoldeb dros ddarlledu i'r Senedd ym Mae Caerdydd.  

Mae S4C wedi dioddef toriadau o 40% i'w gyllideb S4C ers 2010. Mewn dadl yn San Steffan bythefnos yn ôl, dywedodd y Gweinidog yn Llywodraeth Prydain gyda chyfrifoldeb dros S4C y gallai fod toriad pellach o dros £700,000 o bunnau i grant y sianel o fis Ebrill ymlaen.   

Dywedodd Emyr Llywelyn: "Rhaid datganoli darlledu o ran swyddi a chynnwys y rhaglenni er mwyn iddyn nhw roi cyfle i greadigrwydd y cymunedau Cymraeg. Ein llais ni fel pobl ddylai gael ei glywed ar y cyfryngau. Os mai'r bobl biau'r cyfrwng mae datganoli darlledu yn hanfodol er mwyn rhyddhau creadigrwydd pobl ifanc yn ein bröydd." 

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod yr adolygiad o S4C sy'n cael ei gynnal eleni yn cynnig cyfle i sicrhau datganoli darlledu, gan ddweud bod y Gweinidog Guto Bebb yn Swyddfa Cymru wedi datgan y bydd yn rhaid i'r adolygiad ystyried y cwestiwn.   

Ychwanegodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  

“O ddiffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol, teledu lleol a’r toriadau difrifol i S4C i’r diffyg cynnwys Cymreig yn y cyfryngau, mae’n glir nad yw Llundain yn rheoli'r cyfryngau er budd pobl Cymru. Mae angen i’r penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael ei wneud gan bobl Cymru.  Mae’n bryd datganoli darlledu.”  

“Mae sefyllfa ariannol S4C yn hynod fregus; mae'r BBC wedi atal eu cynlluniau am ail orsaf radio Gymraeg; ac mae diffyg difrifol o ran darlledu yn Gymraeg ar y radio masnachol a theledu lleol. Mae hi hefyd yn amlwg bod gan Gymru ddiffyg democrataidd mawr: mae'r darlledwyr Prydeinig yn drysu pobl drwy adrodd ar yr holl benderfyniadau sy'n effeithio ar Loegr yn unig.“   

"Nawr yw'r amser i sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn rheoli ein cyfryngau er lles yr iaith a holl gymunedau Cymru. Ac mae'r cyhoedd gyda ni. Yn ôl pwyllgor trawsbleidiol Comisiwn Silk, a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain ei hunan, mae 60% o bobl Cymru o blaid datganoli darlledu yn ei gyfanrwydd i Gymru."   

Mae'r mudiad iaith yn cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus i hyrwyddo'r ymgyrch dros ddatganoli darlledu.