Bydd Catrin Dafydd - enillydd y Fedal lenyddiaeth yn yr Eisteddfod Dydd Llun, a Chadeirydd Grwp Deddf Iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - yn cymryd rhan yn y cyfarfod cyhoeddus pwysicaf a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Faes Eisteddfod yr Urdd eleni. Bydd y cyfarfod, o dan y teitl 'Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle', yn cael ei gynnal yn yr Eglwys Norwyaidd am 3.30 prynhawn dydd Mercher Mehefin 1af. Bydd y Gymdeithas yn dadlau mai nawr yw’r amser i bwyso am Ddeddf Iaith Newydd.
Gyda Catrin Dafydd ag aelodau amlwg eraill o’r Gymdeithas, bydd yr Athro Colin Williams o Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn dadlai y pwnc. Hefyd bydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn anfon cynrychiolwyr i’r cyfarfod ac mae nifer a aelodau y Cynulliad Cenedlaethol wedi dweud y byddant yno. Un arall sydd wedi anfon ei ddymuniadau gorau am lwyddiant y cyfarfod yw yr Arglwydd Gwilym Prys Davies o Bontypridd er na fydd yn gallu bod yn bresennol oherwydd gwaeledd.Dywedodd Sian Howys ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol yn yr ymgyrch i sicrhau Deddf Iaith newydd.Y rheswm am hynny yw bod llywodraeth y Cynulliad ar fin diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a sefydlu ‘Dyfarnydd Iaith. Er mwyn gwneud hyn bydd yn rhaid iddynt gyflwyno ddeddfwriaeth newydd ger bron y senedd. Rhaid manteisio ar y cyfle hwn i sicrhau fod deddfwriaeth rymusach fydd yn cryfhau statws y Gymraeg yng Nghymru yn cael ei gyflwyno hefyd.""Mae’r Gymdeithas eisoes wedi trefnu un fforwm genedlaethol i drafod y mater hwn yn Aberystwyth ym Mis Mawrth lle cyflwynodd Hywel Williams AS ddrafft fesur Deddf Iaith. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw mae’r Gymdeithas wedi llunio ei dogfen ei hun ar y pwnc – Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle’ ac fe fydd copiau ar gael yn y cyfarfod yn yr Eglwys Norwyaidd."Pwysa yma i ddarllen 'Deddf Iaith Newydd - Dyma'r Cyfle: Papur Trafod Ymgynghorol' a gafodd ei lansio yn y cyfarfodStori oddi ar wefan y Western MailStori oddi ar wefan y Daily Post