Enwogion yn galw am agor dim ond ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd

Mae'r actores Mali Harries a'r cerddor o'r Super Furry Animals Cian Ciaran ymysg dros 35 o enwogion sydd wedi galw ar Gyngor Caerdydd i sicrhau mai dim ond ysgolion cyfrwng Cymraeg fydd yn cael eu hagor ledled y ddinas yn y dyfodol.

Mewn llythyr i gabinet y cyngor, mae'r enwau blaenllaw yn dadlau bod angen i Gaerdydd arwain y ffordd o ran y cynnydd mewn lleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael, er mwyn sicrhau ei bod yn cyrraedd ei chyfraniad sylweddol at y targed cenedlaethol o filiwn o siaradwyr. Ymhlith llofnodwyr eraill y llythyr, mae'r prifardd Catrin Dafydd, y cerddor Griff Lynch, y gantores Heather Jones a'r awdur Jon Gower.

Mae llythyr hefyd yn dadlau bod y diffyg darpariaeth bresennol yn golygu bod rhai blant o'r cefndiroedd mwyaf di freintiedig yn cael u rhwystro rhag y cyfle i gael mynediad at yr iaith Gymraeg a'r holl gyfleoedd sy'n cael eu cynnig ganddi.

Dywed y llythyr:

"Fel y byddwch yn ymwybodol, er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae'n hanfodol bod cynghorau sir yn cynyddu eu darpariaeth o addysg Gymraeg nawr, a fel dinas fwyaf Cymru, mae gan Gaerdydd rôl allweddol i'w chwarae os ydym am gyrraedd y nod. Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn bell o gyrraedd ei dargedau o ran canran y disgyblion sydd mewn addysg Gymraeg yn y sir er mwyn cyfrannu at y nod genedlaethol.

"Mae mwy a mwy o rieni, o bob cefndir, yn dymuno gweld eu plant yn tyfu'n oedolion sy'n gallu siarad Cymraeg. Ond ar hyn o bryd, mae darpariaeth addysg Gymraeg yng Nghaerdydd yn hollol annigonol. Mae teuluoedd ar draws y ddinas yn cael eu troi i ffwrdd o addysg Gymraeg gan fod ysgolion yn orlawn. Mae rhai o'r plant o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig yn cael eu rhwystro rhag cael mynediad at ein hiaith a'r holl gyfleoedd mae hi'n eu cynnig oherwydd diffyg gwybodaeth a diffyg darpariaeth. Rydym yn galw arnoch i drawsnewid y sefyllfa hon ac i sicrhau bod y Gymraeg ar gael i bawb yn y ddinas, o Laneirwg i Drelai."

Ychwanegodd Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Fel dinas fwyaf Cymru, mae gan Gaerdydd gyfraniad allweddol i'w wneud os ydym am gyrraedd y nod cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

"Yn anffodus, ar hyn o bryd, nid yw'r twf mewn addysg Gymraeg yn y ddinas yn ddigonol i fodloni'r galw mawr sydd am lefydd mewn ysgolion Cymraeg, na chwaith  i Gaerdydd gyrraedd y targedau lleol ar y daith tuag at 2050.

"Galwn ar Gyngor Caerdydd i ddangos yr uchelgais a'r arweiniad sydd ei angen er mwyn sicrhau addysg Gymraeg i bawb yn ein prifddinas ac arwain y ffordd tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg."