Angen i gynghorau eraill fynnu cais cynllunio i newid cartref yn ail dŷ neu lety gwyliau

Rydyn ni'n cymeradwyo bwriad Cyngor Gwynedd i gyflwyno Gorchymyn Erthygl 4 o fis Medi 2024, fydd yn galluogi'r cyngor i fynnu cais cynllunio i newid unrhyw gartref yn llety gwyliau neu ail dŷ.

Wrth groesawu'r newyddion dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'r grymoedd yma i fynnu cais cynllunio i newid cartref yn ail dŷ neu lety gwyliau yn newydd, ac mae'n dda gweld bod Cyngor Gwynedd wedi mynd ati i'w defnyddio'n syth a'i wneud yn berthnasol i'r sir gyfan (ag eithrio'r parc cenedlaethol, lle nad y cyngor yw'r awdurdod cynllunio), yn hytrach na'i gyfyngu i rai ardaloedd yn unig, fyddai ond yn symud y problemau sy'n gysylltiedig ag ail dai a llety gwyliau i ardal arall.
Mae Gwynedd wedi arwain y ffordd yn hynny o beth ac mae angen i gynghorau eraill ddefnyddio'r grymoedd yn yr un ffordd. Mae sawl cyngor i ni gysylltu â nhw am hyn wedi rhoi ymateb amwys iawn sy'n rhoi argraff nad oes bwriad ganddyn nhw i ddefnyddio'r grymoedd yma yn y dyfodol agos os o gwbl. Mewn ardaloedd lle mae ail tai a llety gwyliau yn niferus bydd gweithredu Gorchymyn Erthygl 4 yn lleihau effaith ail dai a llety gwyliau.
"Er hynny, dim ond rhan o'r broblem yw ail dai a llety gwyliau, mae prisiau tai y tu hwnt i gyrraedd pobl ar gyflog lleol mewn cymunedau ar draws Cymru am bod tai yn cael eu trin fel asedau masnachol i wneud elw ohonyn nhw yn hytrach nag asedau cymdeithasol i ddarparu cartref.
"Hyd yma mae ymateb y llywodraeth i broblem tai wedi ei gyfyngu i'r symptomau - ail dai a thai gwyliau yn yr achos yma, a phapur gwyrdd ar "dai digonol" wythnos diwetha sydd yn ymwneud â rheoli rhenti yn unig, heb sôn o gwbl am reoleiddio'r farchnad tai. Deddf Eiddo gyflawn sydd ei hangen i fynd at wraidd y broblem unwaith ac am byth."