Tra'n cefnogi cynnig Llywodraeth y Cynulliad i hybu awdurdodau lleol i brynu tai a'i rhentu yn ôl i berchnogion tai â phroblemau ad-dalu morgeisi, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i ddatblygu'r syniad a sefydlu polisi 'hawl i rentu'.
Meddai Iestyn ap Rhobert, cadeirydd grŵp ymgyrch Cymunedau Rhydd:"Os dymunwn weld cymunedau Cymraeg yn goroesi, mae'n rhaid bod amcanion fel yr un mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei grybwyll yn agored i breswylwyr lleol, a fydd yn caniatáu i bobol barhau i fyw yn eu hardal. Mewn gwirionedd, mae nifer ohonynt heb y gallu i brynu tai lleol yn y lle cyntaf.""Rydym yn galw ar Llywodraeth y Cynulliad i ddatblygu'r syniad yma o ganiatáu awdurdodau lleol i brynu tai - sydd yn bresennol ar gael am bris llai na'r arferol - a'u rhentu i bobol leol. I gymunedau Cymraeg oroesi, rhaid sefydlu'r egwyddor 'yr hawl i rentu' yn hytrach na'r 'hawl i brynu'."Meddai Angharad Clwyd, Trefnydd Dyfed Cymdeithas yr Iaith:"Byddai sicrhau yr hawl sylfaenol yma yn caniatáu i bobl leol Sir Gâr i aros yn euardaloedd lle bo prisiau tai ymhell o'u gafael, ag yn hwb mawr i gymunedau Cymraeg y sir. Mae'r un p[eth yn wir am gymunedau trwy Gymru gyfan."