Falch o gyfle i ddathlu Eisteddfod - her i gyngor Powys

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch Cyngor Sir Caerfyrddin am fabwysiadu strategaeth iaith flaengar a all cryfhau’r Gymraeg yn sylweddol dros y blynyddoedd i ddod yn dilyn yr Eisteddfod yn y sir.

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Hoffwn longyfarch pawb oedd yn rhan o lwyddiannau Eisteddfod sir Gâr, ac yn benodol am i’r Cyngor Sir am roi arweiniad i weddill y wlad gyda’i benderfyniad i fabwysiadu ac i weithredu strategaeth iaith flaengar. Rydyn yn falch o gael cyfle i ddathlu am unwaith - ond bydd ein haelodau’n cadw llygad barcud dros y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau bod arweinwyr Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw at eu haddewidion. Wrth edrych ymlaen at Eisteddfod Meifod flwyddyn nesaf, dyma her i gyngor sir Powys ddangos yr un fath o arweiniad a gwneud yn siwr fod yr iaith yn ffynnu’n y sir. Bydden ni’n pwyso arnyn nhw yn y cyfnod yn arwain at y brifwyl flwyddyn nesaf.”