Fferm Trecadwgan - Gwarth y gwerthu ym Mhenfro

Mae Cymdeithas yr Iaith yn condemnio'n hallt benderfyniad Cyngor Sir Penfro i werthu fferm hanesyddol Trecadwgan ger Solfach. Bellach, eiddo cwpwl o Gaerloyw yw'r fferm.

Bu ymdrech lew gan ardalwyr i brynu'r fferm er mwyn creu menter gymunedol fyddai wedi cynhyrchu bwyd i bobl leol a dysgu'r grefft o ffermio i'r trigolion. Crëwyd cynllun busnes credadwy, a gwrthwynebwyd penderfyniad y Cyngor yn chwyrn, gyda deiseb o fil o lofnodion. Sawl gwaith roedd y gymuned yn credu eu bod wedi cael cytundeb gyda'r Cyngor Sir i brynu'r fferm, ond drylliwyd y gobeithion bob tro.

Roedd gweledigaeth gyffrous ac adeiladol i greu gwir gymuned o gwmpas y fenter, a chadw'r fferm yn ôl y bwriad gwreiddiol. Y gobaith oedd cynnwys pobl ifanc a phlant yn y fferm, adfer parch at fwyd, a thyfu a darparu bwyd ar gyfer y gymuned. Yn lle hynny gwelodd y Cyngor yn dda i roi buddion ariannol tymor byr o flaen dymuniad y gymuned i adeiladu rhywbeth fyddai o wir werth ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol.

Dywedodd Robat Idris, Cadeirydd Grŵp Cymunedau'r Gymdeithas:

"Cymunedau iach yw sylfaen ein gwlad. Dyma fenter gymunedol fyddai'n llythrennol wedi rhoi bwyd iach i'w phobl, ac adfer iechyd cymdeithasol hefyd. Mae'n anghredadwy fod y weledigaeth gymunedol iach a chadarn hon yn deilchion – a hynny am nad oedd yr ewyllys gwleidyddol yna i'w chefnogi.

Byddai gweithgareddau mewn menter fel hon hefyd wedi cefnogi'r iaith Gymraeg.

"Galwn am ddeddfwriaeth i sicrhau na fydd hi'n bosib i Gynghorau Sir werthu tir a ffermydd ar y farchnad agored heblaw mewn amgylchiadau eithriadol pan nad oes yna ddewis arall."