Mae myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi ei fod yn mynd i fynd heb fwyd am saith niwrnod er mwyn pwyso am ddatganoli pwerau darlledu i Gymru.
Mae Elfed Wyn Jones yn 20 mlwydd oed a chafodd ei fagu ar y fferm deuluol yn Nhrawsfynydd yng Ngwynedd. Mi fydd yn dechrau ei ympryd ar ddydd Mawrth wythnos nesa (20fed Chwefror) ac mi fydd yn para tan y dydd Mawrth dilynol.
Daw'r newyddion ar drothwy cyhoeddi adroddiad adolygiad annibynnol o S4C, sydd i fod i ystyried, ymysg materion eraill, a ddylid datganoli cyfrifoldeb dros S4C o San Steffan i'r Cynulliad. Derbyniodd yr adolygiad ddeiseb gyda thros fil o enwau arni yn galw am bwerau i symud o Lundain i Gaerdydd. Mae'r oedi ar gyhoeddi'r adolygu, sydd wedi ei gyflwyno i'r Llywodraeth ers cyn y Nadolig, yn golygu nad yw'r darlledwr yn gwybod beth fydd ei gyllideb o fis Ebrill eleni ymlaen.
Yn 2013, daeth Comisiwn Silk – adolygiad trawsbleidiol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Prydain – i'r casgliad y dylai rheolaeth dros gyfraniad ariannol Llywodraeth Prydain i S4C gael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, mae dros hanner cant o bobl yn gwrthod talu am eu trwydded deledu fel rhan o ymgyrch i ddatganoli darlledu.
Mae Elfed yn astudio am radd ym Mhrifysgol yn Aberystwyth, ond yn parhau i wneud gwaith fferm yn ystod ei gwrs. Wrth esbonio ei safiad, dywedodd Elfed Wyn Jones:
"Rydw i’n credu’n gryf mewn democratiaeth, ac yn poeni’n arw fod yna ddiffyg amlwg yng ngwleidyddiaeth Cymru oherwydd hynny. Rydym fel gwlad yn methu datblygu ein hamcanion heb lais sy’n feirniadol o’n Llywodraeth, ond hefyd sy’n esbonio sut mae’r system yn gweithio i ni, gan nodi beth sydd wedi’i ddatganoli megis amaeth, iechyd, addysg a’r pethau sydd heb, fel y system gyfreithiol. Dydyn ni ddim yn gweld y persbectif Cymreig yn ein newyddion a’n gorsafoedd darlledu. Mae hyn hefyd yn ein rhwystro rhag datblygu sianeli a ffrydiau i ddatblygu mwy o sianeli a gorsafoedd Cymraeg, ac mae’r diffyg parch at yr iaith gan y BBC yn amlycach fyth. Mae angen newid, angen datblygu’r system, drwy gael llais i Gymru, sy’n dod o Gymru, rydyn ni'n medru cryfhau ein democratiaeth."
Wrth siarad am effaith yr ympryd arno, dywedodd:
"Mae'n mynd i fod yn anodd, dim ond dŵr tap bydda i'n yfed. Bydda i'n gweld isio popeth o fy mhowlen uwd yn y bore i fy nhaten trwy'i chroen gyda'r nos. Ond wrth feddwl am beth fydd hyn yn ei gyflawni ar gyfer pobl Cymru, gwell ddemocratiaeth, gwybodaeth gliriach, gwell deledu yn Gymraeg ac yn Saesneg, fydd hynny'n rhoi cryfder i mi frwydro nes bwrw'r maen i'r wal."
Yn ôl canlyniadau’r arolwg YouGov y llynedd, mae 65% o bobl yn cefnogi rhoi’r cyfrifoldeb dros y cyfryngau yn nwylo’r Cynulliad tra bod dim ond 35% eisiau i wleidyddion yn San Steffan gadw’r grym.
Ychwanegodd:
“Rydw i'n gobeithio y bydd fy ngweithred yn dangos mor ddifrifol yw'r angen i gael rheolaeth yng Nghymru ar ddarlledu. Rwy'n derbyn fy nghyfrifoldeb i weithredu - nid er mwyn gorfodi awdurdodau na neb arall, ond er mwyn annog eraill i dderbyn eu cyfrifoldeb. Mae'n bryd i'n Haelodau Cynulliad dderbyn eu cyfrifoldeb, ac, i ni, bobl Cymru i dderbyn cyfrifoldeb i fynnu bod penderfyniadau dros y cyfryngau yng Nghymru gael ei wneud gan bobl Cymru. O ddiffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol, teledu lleol a’r toriadau difrifol i S4C i’r diffyg cynnwys Cymreig yn y cyfryngau, mae’n glir nad yw Llundain yn rheoli y cyfryngau er budd pobl Cymru. Mae’n bryd datganoli darlledu ar ein llun ein hunain.”