Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw eto am dreth newydd ar gwmnïau cyfryngau mawrion er mwyn sefydlu ail ddarlledwr Cymraeg, yn dilyn ffigyrau sy'n dangos cwymp yn ffigyrau gwrando Radio Cymru.
Meddai Aled Powell, Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae ffigyrau gwrando yn mynd i fyny ac i lawr, ond rwy'n ffyddiog bydd Radio Cymru yn ffynnu dros y blynyddoedd i ddod o dan arweiniad Betsan Powys. Fodd bynnag, rydyn ni wedi bod yn galw am sefydlu ddarlledwr aml-blatfform newydd allai ryddhau S4C a Radio Cymru o'r ddyletswydd o fod yn bopeth i bawb. Er mwyn canfod yr adnoddau ar gyfer menter o'r fath yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, mae'n amser am ardoll newydd a fyddai'n trethu elw enfawr cwmnïau fel Sky a Google nad sy'n darparu gwasanaethau digonol yn Gymraeg. Byddai hynny'n sicrhau bod y darlledwr newydd yn gallu bod yn annibynnol o'r BBC, sy'n dominyddu darlledu Cymraeg ar hyn o bryd."