Ffilm newydd yng Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas yr Iaith

Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith 2008Am y tro cyntaf erioed dangosir ffilm yng Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas yr Iaith sy’n cychwyn am 10.30am Sadwrn nesaf (2/2) yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth. Dangosir y ffilm “Diwrnodau Olaf Ysgol Mynyddcerrig” yn union cyn bod y Cyfarfod yn trafod cynnig i roi cefnogaeth weithredol i’r don gyntaf o ysgolion pentrefol Cymraeg sydd tan fygythiad yng Ngwynedd.

Gellir gwylio'r ffilm arlein trwy bwyso yma.Esboniodd llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis“Mae’n bryd i wleidyddion mewn llywodraeth leol a chanolog sylweddoli eu bod yn chwarae gyda dyfodol plant diniwed a chymunedau sydd tan bwysau. Maen nhw’n rhy hoff o guddio tu ol i eiriau teg fel “strategaethau” a “rhesymoli”. Byddwn yn mynd a’r ffilm hon ar daith er mwyn dangos gwir gost cau ysgolion pentrefol Cymraeg.”Mae cynnig arall yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i roi cychwyn ar “wleidyddiaeth newydd” trwy bolisiau traws-adrannol i ddatblygu adeiladau ysgolion yn ganolfannau adfywio’n cymunedau pentrefol Cymraeg.Amserlen llawn o'r diwrnod yma.Pwyswch yma i lawrlwytho'r Cynigion (pdf)