Mae cell Dyffryn Teifi o Gymdeithas yr Iaith wedi anfon neges at y Prif Weinidog Carwyn Jones yn diolch iddo am ei ddiddordeb yn y Dyffryn, ond yn galw am weithredu i achub gwasanaethau lleol fel bod pobl ifainc am ymgartrefu yn y fro.
Ym Mehefin 2013, sefydlodd Edwina Hart Grŵp Gorchwyl a Gorffen i edrych sut y gallai Ardal Twf Lleol fod o fudd i Ddyffryn Teifi. Ymysg argymhellion y grŵp roedd cynllun peilot o gyfres o gymorthfeydd i fusnesau lleol allu gwneud y defnydd gorau o'r Gymraeg er budd eu busnes a bod cronfa ar gyfer marchnata, arwyddion a hyrwyddo dwyieithog a Chymraeg.
Cyflwynwyd yr argymhellion i'r Llywodraeth fis Rhagfyr llynedd; wedi cyfnod o dros chwe mis o ystyried fe wnaeth y Llywodraeth dderbyn yr argymhellion ac ymateb iddynt fis Gorffennaf eleni.
Mae'r Gymdeithas yn deall mai'r bwriad nawr yw sefydlu pwyllgor fydd yn goruchwylio'r gwaith o weithredu'r argymhellion a symud pethau yn eu blaen.
Dywed aelod o'r Gymdeithas yn Nyffryn Teifi, Gwenllian Llwyd, 18 oed o Dalgarreg:
"Mae'r llywodraeth yn symud yn boenus o araf yn wyneb argyfwng yr iaith a'n cymunedau Cymraeg yn Nyffryn Teifi. Mae ein pentrefi'n colli gwasanaethau fel ysgolion a siopau, a'n trefi mewn perygl o golli banciau a chyfleusterau hamdden fel y pwll nofio. Fydd pobl ifainc ddim am sefydlu cartrefi mewn cymunedau heb wasanaethau, a bydd y problemau hyn yn tanseilio ymdrechion i hybu twf economaidd yr ardal. Gofynnwn i chi ymyrryd i sicrhau nad yw banc fel y NatWest yn cau canghennau Llandysul a Llanybydder nes bod trefniandau fel uned fancio symudol ar gael, ac i chi ymyrryd i atal yr Awdurdod Lleol rhag torri ei addewid i agor pwll nofio yn yr Ysgol newydd sy’n cael ei adeiladu yn Llandysul. Gofynnwn i chi gyfarwyddo'r pwyllgor newydd i ddyfeisio strategaeth i amddiffyn gwasanaethau yn ein cymunedau yn y Dyffryn."
Mae argymhellion ac ymateb Llywodraeth Cymru iddynt yma
Y stori yn y wasg:
Call to save local Services - Tivy Side 24/10/2014