Galw am atal ymgynghoriad i gau chweched dosbarth Arfon

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gabinet Cyngor Gwynedd (sy'n cwrdd heddiw) i atal y penderfyniad i lansio ymgynghoriad ar addysg ôl-16 yn Arfon. Yn ei le, mae nhw eisiau'r Cyngor i ddechrau paratoi cynlluniau i gyflwyno e-ysgolion ar draws y sir.

Mae'r alwad yn dod ar ôl i'r Gymdeithas ddatgelu fod yr Adran Addysg wedi bod yn ystyried cau pob Chweched Dosbarth yn Arfon, rhywbeth fydd yn effeithio cannoedd o bobl ifanc rhwng 16 a 18. Mae'r Gymdeithas eisiau i'r Cyngor ddysgu o lwyddiant Cyngor Sir Ceredigion. Yr wythnos ddiwethaf adroddodd Ceredigion ar y camau llwyddiannus iawn i ehangu dewis o bynciau trwy ddarparu gwersi drwy'r fideo a'r we.

"Ar amser pan mae Cyngor Gwynedd yn cwyno am ddiffyg arian a thorri gwasanaethau, mae'n angyfrifol iawn ystyried gwastraffu arian ar ymgynghoriad," meddai Angharad Tomos, llefarydd ar ran Rhanbarth Gwynedd a Môn, o’r Gymdeithas. "Mae'r ateb dan eu trwyn, yn y sir drws nesaf."

Mae'r Gymdeithas yn poeni am yr effaith ar yr iaith o gau'r chweched dosbarth mewn cymunedau fel Penygroes, Bethesda a Llanrug. Mae nhw hefyd yn poeni am yr effaith amgylcheddol o bobl ifanc yn teithio yn bell i dderbyn eu haddysg ôl-16, a thorri y cyswllt rhwng pobl ifanc a'i cymunedau.