Galw am Bolisi i Groesawu Ffoaduriaid yn Gymraeg

Fe alwodd ymgyrchwyr iaith ar Lywodraeth Cymru i lunio polisi a fyddai’n sefydlu hawliau i fudwyr ddysgu’r Gymraeg, mewn digwyddiad ar faes yr Eisteddfod heddiw (11yb, dydd Iau, 8fed Awst).  

Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi ‘Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill’, sy’n cynnig gwersi Saesneg am ddim i ffoaduriaid. Fodd bynnag, does dim polisi cyfatebol i’r Gymraeg, ac mae’n rhaid i ffoaduriaid dalu am wersi Cymraeg. Er bod sôn am y Gymraeg yn y gwersi Saesneg a ariennir gan Lywodraeth Cymru, mae'r polisi wedi cael ei feirniadu am drin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn pwyso ar Gomisiynydd y Gymraeg, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a’r Llywodraeth i gydweithio er mwyn llunio polisi a fyddai’n rhoi mynediad llawn i’r Gymraeg i geiswyr lloches a ffoaduriaid. 

Mi fydd Joseff Gnagbo, ffoadur sydd wedi dysgu Cymraeg ers ffoi o Orllewin Affrica ychydig dros flwyddyn yn ôl, yn siarad ar stondin Cymdeithas yr Iaith am ei brofiad o ddysgu. Yn siarad yn y digwyddiad, meddai Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith:

“Rydyn ni’n falch bod y Llywodraeth wedi dweud eu bod nhw’n agored i’r syniad o lunio polisi Cymraeg ar gyfer mudwyr. Nod canolog y polisi ddylai fod sicrhau’r amodau lle mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches, sydd ymysg y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas, yn cael mynediad llawn at y Gymraeg - iaith a ddylai fod yn hawl i bawb sy’n byw yng Nghymru.

“Byddai llunio polisi o’r fath yn gam pwysig ymlaen yn y broses o normaleiddio’r Gymraeg a chyflawni nod y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Wedi’r cwbl, mae’r ffoaduriaid sydd wedi dysgu’r Gymraeg yn llwyddiannus yn ysbrydoli pobl ledled y wlad i ddysgu ac yn codi hyder pawb yng Nghymru i ddefnyddio’r sgiliau Cymraeg sydd gyda nhw. Dyma ffordd arbennig o gynnwys ffoaduriaid yn ein cymdeithas a gwireddu’r weledigaeth o wneud Cymru’n Genedl Noddfa.”

Ychwanegodd Ruth Gwilym Rasool o’r Groes Goch:

"Mae cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisi Cymraeg ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn bositif iawn. Galle darpariaeth gwersi Cymraeg  roi cyfle i geiswyr lloches a ffoaduriaid ddysgu nid yn unig yr iaith ond hefyd dysgu am Gymru a'i hanes a'i diwylliant a byddai'n rhoi cyfle i bobl integreiddio gan agor cyfleoedd i gyfarfod pobl eraill a datblygu eu sgiliau. Gofynnodd merched sy'n rhan o'n prosiect merched yn Casnewydd am gyfle i fynychu gwersi Cymraeg - roedden nhw’n dweud eu bod eisiau gwybod mwy a bod y syniad o ddysgu iaith y wlad yn hollol normal. Mae nifer o'r merched yn amlieithog yn barod a'u plant yn dysgu ychydig o Gymraeg yn yr ysgol. Wedi cwrs deg wythnos yn ein canolfan yng Nghasnewydd gyda Dysgu Cymraeg Gwent, roedd yr adborth yn galonogol ac maent yn awyddus i barhau i ddysgu Cymraeg"