Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw am ddiswyddiad aelod o gabinet Cyngor Wrecsam yn sgil diffygion cyson yn ei wasanaethau Cymraeg ac adroddiadau ffeithiol anghywir, cyn i gyfarfod o’r Bwrdd Gweithredol drafod y mater heddiw (dydd Mawrth, 11eg Mehefin).
Mae aelodau Cell Wrecsam o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw ar Arweinydd Cyngor Wrecsam i drosglwyddo cyfrifoldeb dros y Gymraeg oddi wrth y Cynghorydd Hugh Jones wrth i'r cyngor barhau i fethu â chyflawni ei ddyletswyddau tra’n cyflwyno adroddiadau ac ystadegau camarweiniol.
Yn yr wythnosau diwethaf, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi agor trydydd ymchwiliad i ddogfennau trethi'r Cyngor, lai na blwyddyn ers adroddiad damniol gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus arwain at iawndal ac ymddiheuriad cyhoeddus gan y Cyng. Jones am fethu â chywiro biliau treth cyngor am bum mlynedd yn olynol.
Mewn llythyr at y Cyng. Mark Pritchard, arweinydd y Cyngor, mae’r Gymdeithas yn dwyn sylw at sawl elfen o adroddiad blynyddol ar y Gymraeg sy’n cyfleu gwybodaeth anghywir.
Ychydig dros 135,000 yw poblogaeth y sir gyfan, gan gynnwys plant, ond mae’r Cyngor yn honni bod dros 150,000 o unigolion wedi dewis Saesneg wrth gyfathrebu â nhw yn 2018-19 o gymharu â 15 yn Gymraeg. Daeth i'r amlwg mewn pwyllgor craffu rai misoedd yn ôl bod negeseuon e-bost o’r cyhoedd yn Gymraeg yn cael eu cyfrif fel rhai Saesneg oni bai eu bod wedi eu hanfon at gyfeiriad penodol.
Meddai Aled Powell, cadeirydd cell Wrecsam o Gymdeithas yr Iaith:
“Mae’n warthus bod y Cyngor yn parhau i gyhoeddi ystadegau y mae’n gwybod eu bod yn gamarweiniol ac sy’n cuddio gwir ddefnydd o’r Gymraeg.
“Yn anffodus, mae parhau i weithredu gan wybod eu bod yn achosi niwed yn arwydd o agweddau gwrth-Gymraeg o fewn yr awdurdod.
“Mae elfennau eraill o adroddiad y Cyng. Jones yn ymddangos fel ymdrechion i guddio natur methiannau. Mae’r adroddiad yn rhestru ymchwiliadau Comisiynydd y Gymraeg i holl fethiannau honedig yr awdurdod ond yn osgoi cydnabod pob achos ble mae penderfyniad eisoes wedi ei wneud a chamau gorfodi wedi eu gosod arno.”
Yn ôl y Gymdeithas, mae gan Cyngor Wrecsam hanes o gamarwain pobol o ran y Gymraeg. Ychwanega Mr Powell:
“Yn 2015, cododd y Cynghorydd Jones ofn trwy honni y byddai costau cydymffurfio â’r safonau yn arwain at orfod diswyddo staff a chau llyfrgelloedd cyn mynd ymlaen i honni yn anghywir mai’r Gymraeg yw pedwerydd iaith Wrecsam.
“Yn 2018, bu'n rhaid iddo ymddiheuro mewn cyfarfod o’r Bwrdd Gweithredol wedi i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus gyhoeddi adroddiad damniol i fethiannau Cyngor Wrecsam a oedd yn arwydd o ddifaterwch tua’r gyfraith a diffyg parch at y cyhoedd a’r Gymraeg.”