Galw am newid Strategaeth Addysg Gymraeg Llywodraeth y Cynulliad

strategaeth-addysgcc.jpgYn ei hymateb i Strategaeth Ddrafft Addysg Gymraeg Llywodraeth y Cynulliad ( cyfnod ymgynghori'n dod i ben ar Awst 5ed ) mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am newid sylfaenol yn nod y strategaeth. Yn ôl y Gymdeithas, dylid cydnabod mai sgil addysgol hanfodol i BOB disgybl yw meithrin y gallu i gyfathrebu a thrin gwaith yn Gymraeg ac fe ddylid anelu felly at sicrhau fod pob disgybl - dros gyfnod o amser - yn cael ei ddysgu mewn sefydliad sy'n cyflwyno rhan helaeth o'r addysg yn Gymraeg.Mae hyn yn sylfaenol wahanol i nod strategaeth ddrafft o gynyddu cyfleon i dderbyn addysg Gymraeg, ac ymgynghoriad cyfamserol ar fwriad i fynnu bod pob Awdurdod yn asesu'r galw am addysg Gymraeg. Esbonia llefarydd addysg y Gymdeithas, Ffred Ffransis:"Cydnabyddwn yn barod iawn fel Cymdeithas y byddai gweithredu strategaeth ddrafft y Llywodraeth yn hybu cynnydd arwyddocaol mewn addysg Gymraeg mewn llawer o ardaloedd ac y mae hyn i'w groesawu. Fodd bynnag, byddai derbyn targed o 13% o gofrestriadau TGAU cyfrwng Gymraeg yn golygu fod hyd at 87% o'n disgyblion yn cael eu hamddifadu o'r sgil addysgol hanfodol o fedru cyfathrebu a chyflwyno gwaith yn Gymraeg. Pwysleisiwn nad methiant i hybu'r iaith fyddai hwn ond methiant addysgol, gan fod y gallu i gyflwyno yn Gymraeg yn sgil addysgol hanfodol fel y gallu i gyflwyno gwaith yn Saesneg a'r gallu i ddefnyddio Technoleg Gwybodaeth yn effeithiol."

Mae'r Gymdeithas yn cydnabod y bydd angen amser i wireddu nod o sicrhau fod pob plentyn yn derbyn y sgil addysgol o fedru trin ei waith yn Gymraeg. Awgryma felly sefydlu dau gategori o ardaloedd yn seiliedig ar ddalgylchoedd ysgolion uwchradd. Yn y categori cyntaf o ardaloedd (sef rhannau helaeth o Wynedd, Môn, Ceredigion, Caerfyrddin ynghyd a rhai dalgylchoedd yng Nghonwy, Dinbych, Powys, Penfro etc) dylid sicrhau mai Cymraeg yw cyfrwng sylfaenol pob sefydliad addysgol i bob disgybl. Yn yr ail gategori o ardaloedd - sef gweddill y wlad - byddid yn gweithio tuag at y nod trwy ddilyn llawer o argymhellion strategaeth y llywodraeth o gynyddu nifer yr ysgolion Cymraeg a sicrhau fod ysgolion eraill yn cynnig rhyw fesur o brofiad addysg Gymraeg. Esbonia Ffred Ffransis:"Byddai'r bwriad arfaethedig o fynnu bod Awdurdodau Lleol yn mesur y galw am addysg Gymraeg yn gam yn ol mewn llawer o ardaloedd lle mae mwyafrif yr ysgolion cynradd eioes yn Gymraeg eu hiaith. Ni chredwn chwaith ei bod yn ymarferol cynnig mewn ardaloedd gwledig yr amrywiaeth eang newydd o bynciau i rai 14-19 oed oll yn y ddwy iaith mewn ardaloedd gwledig o niferoedd cyfyngedig. Yn y categori cyntaf o ardaloedd, dylid cydnabod mai Cymraeg yw prif gyfrwng yr addysg i BOB disgybl, a hanfod y strategaeth fydd symud at wireddu hyn. Ond fe ddylai hefyd fod yn nod cenedlaethol i sicrhau fod pob disgybl trwy'r wlad yn ennill y sgil addysgol o fedru trin ei waith yn Gymraeg ac felly'n derbyn cyfran arwyddocaol o'i addysg yn Gymraeg. Cefnogwn yr elfennau cadarnhaol yn y strategaeth i gynyddu nifer yr ysgolion Cymraeg, a chefnogwn yn arbennig y symudiadau tuag at sicrhau fod y sgil i addysgu'n Gymraeg yn rhan o hyfforddiant pob athro a bod ysgolion Saesneg yn dechrau cyflwyno peth addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma gamau cadarnhaol tuag at sicrhau nad oes unrhyw ddisgybl trwy'r wlad yn cael ei amddifadu o addysg Gymraeg."Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg - Gwefan Llywodraeth y Cynulliad