Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaeth iaith yn fuan ar ôl yr etholiad nesaf, ar ôl i'r Gweinidog Diwylliant datgan heddiw na fydd un yn cael ei gyhoeddi cyn Mis Mai.Fe ddywedodd Ceri Phillips, llefarydd hawliau iaith Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'n hollbwysig bod gan fudiadau iaith ar draws Cymru arweiniad clir am fwriad y Llywodraeth yngl?n â'r iaith. Rydym fel mudiad, fel nifer o sefydliadau eraill, wedi ymateb i ymgynghoriad y Llywodraeth ddwywaith ar strategaeth iaith arfaethedig. Mae angen undod llywodraethol yngl?n â beth yw eu dyheadau ar gyfer y Gymraeg; felly mae'n bwysig fod Llywodraeth nesaf Cymru yn cyhoeddi strategaeth yn fuan iawn ar ôl Mis Mai."Rydym yn croesawu gonestrwydd y Llywodraeth am y sefyllfa ieithyddol yng Nghymru, yn enwedig y ffocws ar ddefnydd yr iaith yn hytrach na niferoedd yn unig. Er bod nifer o syniadau da yn y strategaeth, nid yw'r argymhellion yn mynd ddigon pell ac rydym yn amau parodrwydd gwasanaeth sifil y Llywodraeth i wireddu'r cynlluniau. Rydym hefyd yn pryderu'n fawr nad yw'r Llywodraeth yn bwriadu delio gyda diffygion mawr y sector preifat yn enwedig y diffyg gwasanaethau bancio ar-lein yn y Gymraeg."