Galw am ymchwiliad pwyllgor ar ddatganoli darlledu wedi pleidlais

Yn dilyn pleidlais o blaid sicrhau bod darlledwyr yn 'gwbl atebol' i Senedd Cymru ddoe, mae mudiad ymgyrchu wedi galw ar i'r pwyllgor diwylliant edrych ar ymarferoldeb datganoli grymoedd darlledu i Gymru.

Pasiwyd cynnig yn y Senedd ddoe yn datgan y "dylai darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fod yn gwbl atebol i holl seneddau cenedlaethol y Deyrnas Unedig". Bellach, mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Bethan Jenkins AC, gan ofyn i'r Cynulliad nawr gymryd cyfrifoldeb am wneud y gwaith ymchwil ar ymarferoldeb datganoli pwerau darlledu i'r Senedd.

Mewn llythyr at gadeirydd y pwyllgor, meddai Aled Powell, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith:

"Mae'r bleidlais ddoe yn newid polisi'r Cynulliad tuag at rymoedd darlledu. Mae gofyn am atebolrwydd llawn i'n Senedd ni yng Nghymru yn rhywbeth mae angen diffinio a mireinio arno. Ymddengys nad yw Llywodraeth Cymru yn barod i ymwneud y gwaith ymchwil o ran sut ac i ba raddau y dylid datganoli darlledu i Gymru, felly gofynnwn i'ch pwyllgor wneud y gwaith er mwyn cyflwyno adroddiad sy'n gosod allan y gwahanol opsiynau a sut y gall fod "atebolrwydd" yn ymarferol i weddill y Senedd. Fel y gwyddoch, mae'r mater yma yn un sy'n hollol ganolog i hyfywedd democratiaeth Gymreig ynghyd â ffyniant y Gymraeg."