Galw ar Bwyllgor Cyngor i gymryd 'Cam Hanesyddol'

Ysgol MynyddcerrigMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Bwyllgor Craffu Addysg Cyngor Sir Gaerfyrddin i gymryd cam hanesyddol trwy ddefnyddio'u hawl cyfansoddiadol i alw i mewn penderfyniad gan y Bwrdd Gweithredol.

Disgwylir y bydd y Bwrdd Gweithredol yn cadarnhau penderfyniad y swyddogion i gau Ysgol Mynyddcerrig yn eu cyfarfod Ddydd Mercher yma (10am Neuadd y Sir Caerfyrddin). Mae'r Gymdeithas wedi danfon neges ymlaen llaw at aelodau'r Pwyllgor Craffu Addysg yn gofyn iddynt 'alw i mewn' y penderfyniad am drafodaeth gan y Cyngor Llawn ar y sail fod y Cyngor wedi methu dilyn canllawiau'r Cynulliad Cenedlaethol ar gau ysgolion.Esbonia trefnydd y Gymdeithas yn Nyfed, Angharad Clwyd:"Does gyda ni ddim hyder o gwbl yn y Bwrdd Gweithredol i drafod y mater yn deg. 'Dyw'r holl filoedd o eiriau o ymateb i ymgynghori cyhoeddus ddim wedi newid safbwynt y swyddogion o gwbl. Ffars fu'r ymgynghori a ffars hefyd fydd y drafodaeth yn y Bwrdd Gweithredol gan eu bod yn benderfynol o gau a gwerthu degau o ysgolion fel rhan-daliad am eu cynlluniau newydd."Dyw'r Pwyllgor Craffu erioed wedi galw i mewn unrhyw benderfyniad gan y Bwrdd Gweithredol gan fod yr amodau'n gaeth iawn er mwyn rhwystro trafodaeth ddemocrataidd. Rhaid i fwyafrif aelodau'r Pwyllgor Craffu ddanfon ebost o fewn 3 diwrnod i gyhoeddiad penderfyniad y Bwrdd Gweithredol, a byddwn yn gofyn iddynt gymryd y cam hanesyddol hwn o dan adran 6.6(iii) o gyfansoddiad y Cyngor sy'n gwahardd y Cyngor rhag gweithredu'n groes i 'ganllawiau statudol'.""Yn yr achos hwn, y mae canllawiau'r Cynulliad Cenedlaethol yn mynnu fod Awdurdod Lleol yn archwilio pob opsiwn arall cyn cyhoeddi hysbysiad i gau ysgol. Mewn eglurhad ar y canllaw hwn,dywed swyddogion y Cynulliad wrthym nad yw'n ddigonol i Gyngor grybwyll yn unig bosibiliadau eraill na disgwyl i eraill ffurfio cynlluniau eraill. Rhaid i'r Cyngor ei hun archwilio pob posibiliad arall.""Eto i gyd, y mae'r swyddogion yn eu hargymhelliad i'r Bwrdd Gweithredol i gau Ysgol Mynyddcerrig yn dweud nad ydynt wedi derbyn gan Lywodraethwyr Mynyddcerrig na Bancffosfelen Gynllun Busnes manwl am ffedereiddio'r ddwy ysgol. Ond mae canllawiau'r Cynulliad yn egluro mai cyfrifoldeb y Cyngor - nid llywodraethwyr gwirfoddol - yw archwilio'r posibiliad hwn, yn ogystal â phosibiliadau eraill fel creu Ysgol Ffedereiddiedig 3 safle'n cynnwys Pontyberem, neu wneud defnydd cyhoeddus arall o'r capasiti dros ben ym Mynyddcerrig."Gofynwn felly i Aelodau'r Pwyllgor Craffu alw i mewn y penderfyniad gan y bydd y Cynulliad yn sicr o'i wrthdroi ar apel ac er mwyn sicrhau trafodaeth ddemocrataidd."