Galw ar Lywodraeth Cymru am eglurder ar bolisi ysgolion gwledig

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, Lynne Neagle, i ddefnyddio'r adolygiad cyfredol o'r Cod Trefniadaeth Ysgolion i ddatgan yn gwbl eglur bod y rhagdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol gychwyn o safbwynt ceisio eu cynnal a'u cryfhau, ac ystyried eu cau os bydd pob opsiwn arall yn methu.

Mewn neges at yr Ysgrifennydd Cabninet heddiw (dydd Mercher 18 o Ragfyr), cyfeiriodd y mudiad at eiriau Prif Weithredwr Cyngor Ceredigion, Eifion Evans, yn ystod cyfarfod Cabinet yr awdurdod ar ddechrau'r mis (dydd Mawrth, 3 Rhagfyr), lle penderfynwyd i  drin yr ymgynghoriadau statudol ar gynigion i gau Ysgol Llangwyryfon, Ysgol Craig-yr-Wylfa, Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn, ac Ysgol Syr John Rhys ym Mhonterwyd fel rhai anffurfiol.

Dywedodd Mr Evans wrth y cyfarfod:

"Mae'r Cod yn un tu hwnt o gymhleth a thu hwnt o anodd. A fel y dywedais ar hyd yr amser, mae'r Cod mor annelwig ar y foment. Mae'n ben tost i swyddogion gymaint ag yw e i unrhyw un arall sut i'w ddehongli a'i ddefnyddio. Rwyn gobeithio fod yr adolygiad sy'n digwydd lawr yng Nghaerdydd nawr ynglyn â'r Cod yma yn mynd i, o'r diwedd, geisio cael rhyw fath ar eglurder ar beth sydd angen gwneud."

Wrth ymateb, dywedodd Ffred Ffransis ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

"Mae argraffiad 2018 o'r Cod yn datgan yn ddigon eglur fod dyletswydd rhagdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig sydd ar restr swyddogol y Llywodraeth. Ond cred nifer o awdurdodau lleol fel Ceredigion y gallant gychwyn o safbwynt bwriad i gau nifer o ysgolion gwledig i arbed arian, ac wedyn, mynd trwy gamau gwag yn unig o enwi a diystyrru opsiynau amgen gyda’r un frawddeg generig.”

Ym Medi 2018, wrth gyflwyno’r Cod, esboniodd Kirsty Williams AS ei fwriad ar lawr y Cynulliad:

“Dylai awdurdodau lleol yn yr ardaloedd hynny, os oes ganddynt ysgol ar y rhestr, ddechrau ar y sail mai cau yw'r dewis olaf a dylent geisio pob cyfle drwy amrywiaeth o ffyrdd i gadw'r ysgolion hynny ar agor… Na ddylid gadael y rhagdybiaeth honno yn erbyn cau a'r opsiwn i chwilio am ddewisiadau eraill i gadw ysgol ar agor, unwaith eto, tan y cyfnod ymgynghori swyddogol, ond dylai'r cyngor eu harchwilio cyn gwneud unrhyw benderfyniad i gynnal ymgynghoriad ar ddyfodol yr ysgol.”

Ychwanegodd Mr Ffransis:

"Mae'n amlwg nad dilyn proses fel yr hyn welwyd gyda Chyngor Ceredigion oedd bwriad Senedd a Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno'r newid hwn yn y Cod.

"Yn syml iawn, mae angen pwysleisio a gwneud yn eglur yr egwyddor o ragdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig yn nhrydydd argraffiad y Cod a gyhoeddir o ganlyniad i'r ymgynghoriad. Fel hyn, ni bydd lle unrhywun gamgymryd nad yw'r Senedd na’r Llywodraeth o ddifri ynghylch y polisi."