Yn dilyn cyhoeddi cyllideb drafft y Cynulliad ddoe, bydd Cymdeithas yr Iaith heddiw yn tynnu sylw Aelodau'r Cynulliad at rai o'r camau hynny sydd angen eu cymeryd, cyn cyflwyno'r fersiwn derfynol ym mis Tachwedd, er mwyn sicrhau dyfodol i'n cymunedau Cymraeg. Bydd hyn yn digwydd mewn cyfarfod lobio a gynhelir am 1pm yn Ystafell Bwyllgor 5.
Meddai Huw Lewis, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:"Yn sgil sefyllfa bresennol y farchnad dai, mae ein cymunedau yn wynebu bygythiadau nas gwelwyd o'r blaen. O ganlyniad, mae'n hollbwysig fod Llywodraeth Cymru yn cymeryd rhai camau penodol rhwng nawr a chyhoeddi'r gyllideb derfynnol ym mis Tachwedd. Dylai'r Llywodraeth sicrhau cynnydd yn yr arian a ddarperir ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu. Yn ogystal dylid darparu digon o arian ar gyfer sefydlu'r 'Hawl i Rentu', Byddai gweithredu yn y meysydd hyn yn gam cadarnhaol tuag at gyllido dyfodol i'n cymunedau."Bydd cyfarfod lobio Cymdeithas yr Iaith yn mynd yn ei flaen er gwaethaf ymdrechion gan rai aelodau o'r Blaid Lafur i danseilio'r digwyddiad. Eglurodd Huw Lewis:"Bwriad gwreiddiol Cymdeithas yr Iaith oedd i gynnal y cyfarfod lobio ym mhrif neuadd y Cynulliad er mwyn cael y cyfle gorau posib i ddal sylw'r gwleidyddion. Gwnaed y trefniadau ar gyfer hyn nÙl ym mis Gorffennaf. Eto i gyd, cwta bythefnos cyn y digwyddiad, derbyniodd y mudiad neges o Swyddfa'r Llywydd a oedd yn nodi na fyddai hi'n briodol i gynnal y lobi ym mhrif neuadd y Cynulliad. Yn hytrach, gofynwyd i'r Gymdeithas i symud i ystafell arall naill ochr.""Yn dilyn gwneud ychydig o ymholiadau cafwyd gwybod bod y trefniadau wedi cael eu newid yn dilyn cwynion gan rai aelodau o'r Blaid Lafur."Er mwyn mynegi eu hanfodlonrwydd gyda'r modd y cafodd y mudiad ei drin, bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn ymgasglu tu allan i'r Cynulliad am 11am. Yno byddant yn gofyn i gyflwyno llythr swyddogol o gwyn i Swyddfa'r Llywydd. Bydd Elin Jones AC (sydd wedi helpu gyda threfniadau'r diwrnod) a Leanne Wood AC yn ymuno gyda nhw i ddangos cefnogaeth.Meddai Huw Lewis:"Mae'r ffaith bod rhai o aelodau'r Blaid Lafur wedi ceisio tanseilio digwyddiad a oedd a'r nÙd o dynnu sylw at gamau penodol i ddiogelu ein cymunedau Cymraeg, yn dangos eto nad oes gan y blaid honno fwriad i fynd i'r afael ’ materion o'r fath. Am hynny, mae'n bwysig fod pobl o bob rhan o Gymru yn ymuno gyda ni yn y rali genedlaethol - Dyfodol i'n Cymunedau - a fydd yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ar Dachwedd 15. Bryd hynny - ar drothwy'r gyllideb - bydd cyfle i bwyso ar y Llywodraeth Lafur i weithredu er lles ein cymunedau."