Yn Aberystwyth prynhawn dydd Sadwrn (27/09/03) , am 1pm, cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yr ail brotest mewn cyfres yn erbyn cwmni McDonalds. Prif fwriad y brotest oedd galw ar y cwmni i gynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn. Ar yr un pryd, roedd y protestwyr yn galw ar y cwmni i gefnogiír economi leol, trwy wneud defnydd o gynnyrch amaethwyr lleol.
Meddai Rhys Llwyd, ar ran Cymdeithas yr Iaith: ìFel cymaint o gwmniau preifat eraill, nid yw McDonalds yn parchu hawl pobl Cymru i ddefnyddioír iaith Gymraeg. Weithiau ceir ambell i arwydd Cymraeg yma a thraw, ond nid ydynt yn gwenud defnydd go-iawno oír Gymraeg. Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau Deddf Iaith Newydd fydd yn gorfodi cwmniau oír fath i gynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn."Ychwanegodd: ìYn wir, ni ddylem synnu nad yw McDonalds yn parchuír iaith Gymraeg, gan mai nid gwasanaethu ein cymunedau lleol yw nod y cwmni. Caiff hyn ei bwysleisio ymhellach o ystyried y ffaith nad ydynt yn barod i gefnogiír economi leol trwy wneud defnydd o gynnyrch amaethwyr lleol.î