Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at holl aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol gan ofyn iddynt sicrhau mai Deddf Iaith Newydd gynhwysfawr fydd y darn cyntaf o ddeddfwriaeth y bydd y Cynulliad yn ei lunio o dan y pwerau newydd a amlinellir yn y Papur Gwyn Trefn Llywodraethu Gwell i Gymru.
Dywedodd Sian Howys ar ran cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Am y tro cyntaf mae y Gymraeg ar yr agenda ddeddfwriaethol yn sgil cyhoeddiad llywodraeth y Cynulliad ei fod am ymgorffori Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn y Cynulliad a chreu swydd Dyfarnydd Cynlluniau Iaith.""Er i Alun Pugh ddweud wrthym mewn cyfarfod ym Mis Ebrill nad oedd angen Deddf Iaith gynhwysfawr yr ydymyn dod ar draws enghreifftiau bob dydd o ddiffyg statws y Gymraeg . Mae hyn yn brawf pendant fod Deddf Iaith 1993 wedi chwythu ei phlwc."Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi Papur Trafod – 'Dyma'r Cyfle' sy’n amlinellu ein gofynion. Yn gryno yr ydym am weld deddf fydd yn:· rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg· diffinio hawliau fydd yn grymuso pobl Cymru i ddefnyddio’r Gymraegymmhob agwedd ar fywyd· creu Comisiynydd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Ymgynghorol i’r GymraegMae'n fwriad gan y Gymdeithas drefnu lobi ar y pwnc hwn yn y Cynulliad yn y dyfodol agos.