Galw ar y BBC i dderbyn cynnig diweddaraf Eos

Yn ymateb i'r trafodaethau ddoe rhwng Eos a'r BBC, dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

"Mae'n bwysig iawn bod y BBC yn Llundain yn derbyn cynnig diweddaraf Eos er lles ein cerddorion Cymraeg ac er lles Radio Cymru a'i gwrandawyr. Mae ein cerddorion Cymraeg yn haeddu tâl teg am eu gwaith, ac mae gwrandawyr Radio Cymru yn haeddu gwasanaeth cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n amlwg fod pobl Cymru yn gefnogol iawn i Eos a'n cerddorion Cymraeg. Cafwyd ymateb anhygoel i lythyr a osodwyd ar ein gwefan, gyda dros 1,000 yn cymryd y cyfle i anfon llythyr yn cefnogi'n cerddorion at Elan Closs Stephens, Ymddiriedolwr y BBC yng Nghymru, o fewn tridiau yn unig."

"Mae'n peri gofid i ystyried faint o wrandawyr sydd eisoes wedi troi at orsafoedd radio eraill tra bod diffyg cerddoriaeth gyfoes ar gael iddyn nhw ar Radio Cymru. Gyda'r trafodaethau rhwng Eos a'r BBC yn parhau, mae yna obaith o gyfiawnder i'r cerddorion, ond mae pob diwrnod sy'n mynd heibio heb gytundeb yn ychwanegu at y niwed i'n hunig orsaf radio Cymraeg. Mae hyn wedi mynd ymlaen yn rhy hir, felly galwn ar y BBC i dderbyn cynnig diweddaraf Eos, a hynny ar frys."

"Mae'r anghydfod yma yn ychwanegu pwysau amlwg a sylweddol i'r ddadl dros ddatganoli darlledu i Gymru ac yn dystiolaeth bellach nad yw penaethiaid y BBC yn Llundain yn deall diwylliannau unigryw Cymru yn ddigonol i allu gwneud penderfyniadau priodol a pharchus er lles bobl Cymru."