Galwad ar Gyngor Sir Gar i roi heibio cynllun ysgolion

Cadwn Ein Hysgolion.JPGYn wyneb y canlyniadau etholiadol ysgubol yn Sir Gaerfyrddin, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Cyngor Sir newydd i roi heibio ei gynllun dadleuol i gau hyd at 40 o ysgolion pentrefol Cymraeg yn y sir.Dywed cadeirydd y Gymdeithas yn y sir, Sioned Elin:"Dyma'r etholiad sirol cyntaf ers cyhoeddi'r Cynllun Moderneiddio Addysg yn Sir Gar yn 2005 a'r cyfle cyntaf i etholwyr fynegi eu barn.Yn y maes yma, ac mewn llu o feysydd eraill, mae'n amlwg fod yr etholwyr wedi penderfynu fod y Cyngor wedi anwybyddu barn y bobl mewn modd trahaus iawn. Byddwn yn galw ar y Cyngor newydd i roi heibio'r cynllun hwn i fygwth ein hysgolion a'n cymunedau Cymraeg ac i drafod yn onest gyda phobl leol y ffordd ymlaen. Mae'n amlwg fod hwn yn bwnc yn Sir Gar fel ag mewn ardaloedd eraill o Gymru,"