Mae Aelodau Cynulliad o'r tair gwrthblaid wedi gwneud datganiad ar y cyd heddiw yn galw ar i'r Gymraeg fod yn ganolog i Fil Cynllunio Llywodraeth Cymru.
Mae'r datganiad barn, sydd wedi ei gyflwyno gan yr Aelodau Cynulliad Russell George, Llŷr Huws Gruffydd a William Powell, yn galw am nifer o newidiadau i'r Bil megis gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth statudol yn y system gynllunio a seilio targedau tai ar anghenion lleol.
Dywedodd Russell George, Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr yn Sir Drefaldwyn: “Mae Llŷr Huws Gruffydd, William Powell a minnau wedi cyflwyno datganiad barn ar y cyd yn galw am gryfhau statws y Gymraeg yn y Bil Cynllunio. Rydym yn gweld fod gan y Llywodraeth gyfle euraidd i ymgorffori'r Gymraeg yn y system gynllunio drwy roi grym i gynghorwyr lleol dderbyn neu wrthod cais cynllunio ar sail yr effaith ar y Gymraeg, a sefydlu system statudol o gynnal asesiadau effaith ar y Gymraeg ar gyfer datblygiadau sylweddol.”
Yn ogystal â datganiad barn trawsbleidiol mae nifer o arweinwyr cynghorau sir o bob rhan o Gymru wedi arwyddo llythyr at Carl Sargeant i'r un perwyl, a miloedd o gardiau wedi eu cyflwyno gan Gymdeithas yr Iaith yn galw am roi lle canolog i'r Gymraeg yn y Bil Cynllunio fel bod datblygiadau tai yn ateb y galw lleol amdanynt.
Daw'r galwadau wedi i bwyllgor amgylchedd y Cynulliad argymell i'r Llywodraeth wneud nifer o welliannau i'r Bil er mwyn cryfhau cyflwr y Gymraeg ar lefel gymunedol.
Wrth groesawu'r datganiad barn dywedodd Tamsin Davies, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'r pwysau'n cynyddu ar y Gweinidog i weithredu. Gobeithio y bydd hyn yn rhoi'r ysgytwad sydd ei angen i'w gweision sifil. Mae'r Gymraeg yn haeddu mwy na briwsion o'r bwrdd, fel mae'r datganiad ac adroddiad y pwyllgor yn dangos. Mae angen rhoi'r iaith ynghanol y Mesur yma; nid ildio'r lleiafswm i gadw pawb yn dawel. Rydyn ni'n falch iawn bod nifer fawr o Aelodau Cynulliad bellach yn cefnogi'r newidiadau sylfaenol rydyn ni'n galw amdanyn nhw o ran newid targedau tai, rhoi statws i'r Gymraeg a chreu cyfundrefn o asesiadau effaith iaith. Mae barn y Cynulliad yn dod yn glir. Mae dyletswydd gan y Gweinidog i ymateb yn deilwng i'r consensws. Os nad oes symud sylweddol gan y Llywodraeth, rydyn ni'n dal i baratoi ar gyfer her gyfreithiol er mwyn gorfodi iddyn nhw newid y Bil."
Bydd y Bil Cynllunio yn cael ei drafod ar lawr y Cynulliad wythnos nesaf (Dydd Mawrth, 10fed Chwefror).