Ar nos Wener, Mawrth 13, bydd noson arbennig iawn yn cael ei chynnal yng Nghaernarfon i godi arian i bobl Gasa. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn rhoi cyfle i bobl gyfrannu drwy ddod i gefnogi noson lle bydd Steve Eaves a Gwilym Morus yn chwarae. Steve Eaves ei hun sydd wedi cynnig cynnal noson, ac rydym yn ffyddiog y bydd yn gyfle i nifer fawr iawn o gyfrannu i achos sydd wedi eu cyffwrdd yn ddwfn.
Can i GasaSteve EavesGwilym MorusGwesty Meifiod, Bontnewydd Caernarfon8pm Nos Wener, Mawrth 13 2009, £8Trefnwyd gan Gymdeithas yr IaithElw i gronfa DAC i helpu pobl GasaManylion-Angharad Tomos 01286 882134Meddai Angarad Tomos, Trefnydd y noson -"Yn ystod wythnosau cyntaf 2009, lladdwyd 1,300 o Balestiniaid yn Gasa, a bron i draean o'r rheini yn blant. Mae 50,000 o bobl yn ddigartref a miloedd heb ddŵr a bwyd. Gyda gwlad lle mae 56% o'r boblogaeth yn blant, roedd ei bomio yn ddidrugaredd am dair wythnos yn weithred anwaraidd y dylid ei chondemnio yn y modd cryfaf bosib. Does dim modd bod yn ddi-duedd ar fater Gasa, rydych naill ai yn ddi-hid i'r tywallt gwaed, neu yn ysu am y cyfle i gael cynorthwyo'r dioddefwyr mewn unrhyw fodd."Mae Gwilym Morus wedi teithio i Balestina fwy nag unwaith, ac wedi dod yn gyfeillgar gyda cherddorion yno. Y gobaith yw cael noson gofiadwy lle bydd bob ceiniog o elw yn mynd yn syth i Gasa. Bydd y lleoliad yn cael ei gadarnhau yn fuan.Am ragor o fanylion, cysylltwch ag Angharad Tomos 01286 882134