Gigs Steddfod Abertawe 2006

gigs-steddfod-abertawe.jpgEr bod rhai misoedd tan yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe, mae bwrlwm digwyddiadau adloniant yr wythnos eisoes wedi dechrau wrth i Gymdeithas yr Iaith gyhoeddi lleoliadau eu gigs.Fel arfer, mewn cyd-weithrediad â phobl leol, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnal wythnos llawn o gigs yn ystod yr Eisteddfod eleni, a hynny yn nwy o ganolfannau gorau yr ardal.

Y cyntaf o'r rhain yw Bar 5 yn nghlwb nos Barons sydd reit yng nghanol y ddinas. Bydd y ganolfan yn adnabyddus i unrhywun fynychodd yr Eisteddfod y tro diwethaf iddi ymweld â Abertawe gan mae yno oedd gigs y Gymdeithas bryd hynny hefyd. Bydd yn gyfarwydd iawn i ffans o'r ffilm 'Twin Town' hefyd gan fod nifer o'r golygfeydd wedi eu ffilmio yno.Yr ail ganolfan fydd yn llwyfannu gigs y Gymdeithas fydd y Glamorgan Arms ger pentref Pontlliw ar gyrrion y ddinas. Mae'r ganolfan yn boblogaidd gyda Chymry Cymraeg yr ardal ac yn cynnal llawer o ddigwyddiadau diwyllianol Cymraeg yn gyson. Mae'r ganolfan ond tafliad carreg o leoliad Maes Carafannau'r Eisteddfod eleni ym Mhontlliw.Bydd y Gymdeithas unwaith eto yn cynnig arlwy o fandiau ac artistiaid gorau Cymru gyda rhywbeth ar gyfer pob blas cerddorol. Ymysg y prif fandiau ac artistiaid sydd wedi eu cadarnhau mae Radio Luxembourg, Frizbee, Bob Delyn a'r Ebillion, Sibrydion, Geraint Løvgreen, Meic Stevens, Euros Childs a llawer, llawer mwy.Dywedodd Swyddog Adloniant y Gymdeithas, Owain Schiavone:"Rydym wrth ein bodd i fod wedi gallu cael gafael ar ddwy ganolfan cystal ar gyfer ein gigs eleni. Rydym yn gweld Bar 5 fel cyfle gwych i bobl flasu bywyd nos Abertawe, yn ogystal a chyflwyno diwylliant Cymraeg i drigolion y ddinas. Roedd y Glamorgan Arms hefyd yn ddewis amlwg gan fod nosweithiau Cymraeg yn cael eu cynnal yno’n aml. Eisoes mae pethau’n edrych yn gynhyrfus iawn ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr."Am ragor o wybodaeth ynglyn â gigs y Gymdeithas yn yr Eisteddfod cysylltwch â Owain Schiavone (Swyddog Adloniant): owain[at]cymdeithas.com