Gigs 'Steddfod Dinbych 2013!

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi y byddant yn cefnogi busnesau lleol yn yr  Eisteddfod unwaith eto eleni, gan gynnal eu gigs mewn dau o lleoliadau gorau ac amlycaf tref Dinbych.

Yn ol yr arfer bydd y Gymdeithas yn trefnu rhaglen lawn o gigs yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Yn ogystal â nosweithiau yn Nhafarn y Guild (Tafarn y Bwl gynt) lle cynhaliwyd gigs llwyddiannus iawn y tro diwethaf i’r Eisteddfod ymweld â’r ardal, byddant yn defnyddio lleoliad ‘eiconig’ Neuadd y Dre – y ddau ar ‘’dop Dre’ fel yr adnabyddir canol Dre Dinbych.
 
Wrth gyhoeddi’r lleoliadau mae’r trefnwyr wedi pwysleisio pwysigrwydd ymestyn gweithgarwch yr Eisteddfod i’r gymuned leol yn ystod yr wythnos ac yn annog Eisteddfodwyr i ymweld â’r dre a’r ardal.
 
“Da ni isio gweld bwrlwm maes yr Eisteddfod yn ymestyn i'r Dre a chael effaith barhaol ar Ddinbych. Mae bygythiad go iawn i'r Gymraeg yn Nyffryn Clwyd ac mae dyfodiad y Steddfod yn gyfle i atgyfnerthu'r Gymraeg yn y dre a'r Sir” meddai Gerallt Lyall, un o'r trefnwyr.
 
Bydd y Cyngor Sir yn trefnu bws gwennol pob hanner awr o faes yr Eisteddfod i'r Dre a bydd y Gymdeithas yn trefnu bysiau i gludo pobl nôl i faes yr Eisteddfod ar ddiwedd y nosweithiau. Mae hefyd yn bosib cerdded yn hwylus i'r dref bellach oherwydd y llwybr cerdded cyhoeddus sy’n mynd i ganol y dref o faes yr Eisteddfod.
 
Mae’r grŵp sy’n trefnu nosweithiau y Gymdeithas wedi cyhoeddi hefyd bydd ambell noson amgen yn eu harlwy adloniant eleni gyda diwrnod o ffilmiau mewn cydweithrediad â Grŵp Ffilmiau Dinbych a noson gomedi.
 
"Fel trefnwyr rydym yn awyddus i ddenu eisteddfodwyr i'r dref a thrwy hynny wneud cyfraniad i Gymreictod a diwylliant arbennig Dinbych. Byddwn yn cydweithio â Menter Iaith Sir Ddinbych, busnesau'r dref a mudiadau lleol i wneud yn siŵr y bydd y croeso’n gynnes ac yn Gymreig." meddai Dyfan Roberts ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. 
 
Ychwanegodd:"Bydd rhai o'r nosweithiau’n cael eu trefnu ar y cyd â mudiadau lleol fel y Mudiad Ffermwyr Ifanc sy’n chwarae rhan mor bwysig wrth gynnal y Gymraeg  yn Nyffryn Clwyd a gweddill cefn gwlad Cymru."