Galw ar Global i beidio ddiddymu gwasanaethau Cymraeg Capital

Rydyn ni wedi galw ar swyddogion cwmni radio masnachol Global Radio i wrthdroi ei benderfyniad i ddiddymu darpariaeth Gymraeg Capital North Wales, ac wedi gofyn i’r awdurdod rheoleiddio ar gyfer telethrebu, Ofcom, am ei ran yn y penderfyniad.

Mae’n debyg i Global wneud y penderfyniad yn sgil cyflwyno Deddf Cyfryngau newydd gan Senedd San Steffan y llynedd, wnaeth ddiddymu unrhyw reoliadau ar gynnwys a fformatio gorsafoedd radio masnachol.
Mae hyn yn cadarnhau’r angen i ddatganoli grymoedd dros ddarlledu o San Steffan i Gymru.

Yn ôl Carl Morris, Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith:
“Mae’n amlwg nad oes gan wleidyddion yn San Steffan nac Ofcom ddiddordeb ym muddiannau’r Gymraeg a’n cymunedau, a bod  angen i Lywodraeth Cymru symud ymlaen â’r cynlluniau i sefydlu Corff Cynghori ar Ddarlledu a Chyfathrebu i Gymru fel cam cyntaf tuag at ddatganoli darlledu.”

I ddarllen llythyr Cymdeithas yr Iaith at Global, pwyswch yma

I ddarllen llythyr Cymdeithas yr Iaith at Ofcom, pwyswch yma