Gofal Iechyd Sylfaenol: Croesawu adroddiad y Comisiynydd

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu adroddiad Comisiynydd y Gymraeg am ofal iechyd sylfaenol.

Yn ôl ymchwil y Comisiynydd, mae 82% o bobl yn cefnogi’r hawl i ofal iechyd yn Gymraeg.

Meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Robin Farrar: “Rydyn ni’n croesawu adroddiad y Comisiynydd heddiw, mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn gweithredu’r argymhellion yn y set nesaf o safonau iaith. Mae’n galonogol iawn hefyd gweld cymaint o gefnogaeth i’r hawl i ofal iechyd yn Gymraeg, hawl rydyn ni wedi bod yn ymgyrchu drosti ers blynyddoedd maith.”

Ein hymateb i'r ymholiad