Gofyn am gyfarfod brys gyda Carwyn Jones AC

 crestceredigion.gif Danfonodd Rhanbarth Ceredigion o Gymdeithas Yr Iaith lythyr at Carwyn Jones, Gweinidog Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad Llywodraeth y Cynulliad, heddiw gan son am eu pryder ynglyn â chasgliadau'r Ymchwiliad Cyhoeddus a gynhaliwyd i gynnwys Cynllun Datblygu Unedol Cyngor Ceredigion.

Dywed Huw Lewis ar ran y rhanbarth:"Dyma ymchwiliad lle bu lles yr iaith Gymraeg yn ganolog i'w holl drafodaethau - yn wir, go brin y bu unrhyw ymchwiliad arall ym maes cynllunio, lle bu ystyriaethau ieithyddol mor bwysig. Eto i gyd, credwn fod ymdriniaeth yr arolygwyr annibynnol o'r materion hyn wedi bod yn arwynebol iawn.""Nid ddywedwn hyn fel beirniadaeth benodol o waith yr arolygwyr eu hunain. Yn hytrach, mae ein pryder yn deillio o'r ffaith fod ymdriniaeth arwynebol yr arolwg o faterion ieithyddol, yn adlewyrchu methiant mwy sylfaenol ar ran y drefn gynllunio yn gyffredinol. Erbyn hyn, mae profiad Cymdeithas yr Iaith wrth ymgyrchu mewn sawl rhan o Gymru, yn pwysleisio'r ffaith nad oes gan y drefn gynllunio, yn ei ffurf bresennol, y gallu i ymdrin yn foddhaol ag anghenion yr iaith Gymraeg.""Mae hyn yn sefyllfa ddifrifol, sydd ag oblygiadau difrifol i gynaladwyedd yr iaith ar y lefel gymunedol. Yn wir mae'n sefyllfa sydd yn mynd benben ag ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad yn ei dogfen bolisi Iaith Pawb i atal y lleihad yn y nifer o gymunedau naturiol Cymraeg. O ganlyniad, gofynnwn i chi gyfarfod yn fuan â dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith er mwyn trafod y sefyllfa ddifrifol hon."