Penderfynodd Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a gyfarfu dros y Sul ysgrifennu at y Prif Weinidog Rhodri Morgan a’r Gweinidog Diwylliant Alun Pugh. Mae’r Gymdeithas am gyfarfod â’r ddau i drafod dyfodol yr iaith Gymraeg yn dilyn y penderfyniad i ddileu Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Dywedodd Huw Lewis, Cadeirydd y Gymdeithas:“Er ein bod yn croesawu diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg gwelwn hynny fel cyfle i roi rhywbeth cryfach yn ei le. Galwn am Ddeddf Iaith gryfach am Gyngor yr Iaith Gymraeg, Canolfan Safoni Termau Cenedlaethol, Corff Cynllunio Ieithyddol a Chomisiwn Iaith. Ni allwn chwaith beidio ag anghofio geiriau Rhodri Morgan ei hun yn ystod y ddadl ar y Mesur Iaith yn ôl yn 1993. Bryd hynny fe ddywedodd:“...the government... says that it is the Welsh Language Bill... but unfortunately what we have is a Welsh language quango Bill – what may be called a quango for the lingo... We shall be abstaining tonight before we hope to have the opportunity before long to do the job properly. That will be done when we revisit the question of a Welsh language measure when we are in government.”Dywedodd Huw Lewis ymhellach:“Hyd yn hyn mae Rhodri Morgan Wedi gwrthod ail ymweld â chwestiwn yr iaith Gymraeg ond fe fydd yn rhaid iddo bellach gan ei fod wedi diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a diberfeddu Deddf yr Iaith Gymraeg yr un pryd. Yr ydym fel Cymdeithas yn frwd dros ei gyfarfod ef ac Alun Pugh nid yn unig er mwyn cyflwyno ein syniadau ni am y dyfodol ond er mwyn gwybod hefyd beth sydd gan lywodraeth Cymru i’w gynnig.”Mae Cymdeithas yr iaith hefyd wedi trefnu Fforwm Genedlaethol ar Ddeddf Iaith ar Fawrth 12fed yn Aberystwyth.Stori oddi ar wefan y Cambrian News