Gofyn am ymddiheuriad gan y Prif Weinidog ar enw’r Senedd

Mae ymgyrchwyr wedi gofyn am ymddiheuriad gan y Prif Weinidog Mark Drakeford am ddweud ‘celwedd’ mewn llythyr atyn nhw am ei safbwynt ar enw’r Senedd. 

Roedd Mark Drakeford yn absennol o’r bleidlais ar enw’r Senedd ddechrau’r mis, ond roedd pob Gweinidog arall wedi eu chwipio i bleidleisio dros ychwanegu enw Saesneg i’r ddeddfwriaeth. Ym mis Tachwedd y llynedd mewn cyfweliad i’r wasg, dywedodd Mark Drakeford y byddai’n dewis ‘Senedd’ fel enw uniaith Gymraeg i’r sefydliad, gan feirniadu’r syniad o ychwanegu enw Saesneg.

Ym mis Gorffennaf eleni, holodd dirprwyaeth o’r Gymdeithas mewn cyfarfod gyda’r Prif Weinidog am ei farn am enw uniaith i’r Senedd. Yn ôl y mudiad, roedd ei ymateb yn ddiamheuol ei fod yn cefnogi enw uniaith.

Ond mewn llythyr at y mudiad wedi’r bleidlais ar ddeddfwriaeth i newid enw’r Cynulliad yn ceisio amddiffyn safbwynt y llywodraeth, dywed y Prif Weinidog: “Fel y dywedais yn ein cyfarfod fis Gorffennaf, cefnogaf yn llwyr y defnydd bob dydd o "Senedd" yn ein dwy iaith swyddogol. Serch hynny, dywedais hefyd y gall fod angen gwahaniaethu rhwng y realiti ymarferol o ba enw a ddefnyddir ar y naill law a'r gwaith technegol o ddrafftio'r ddeddfwriaeth berthnasol ar y llall… bydd weithiau angen i Ddeddfau deddfwrfeydd eraill y DU gyfeirio at ddeddfwrfa Cymru. Byddai defnyddio "Senedd Cymru" (yn unig) o leiaf yn cynnwys cyfeiriad at Gymru ond nid ywhynny ond ynhygyrch o hyd i'r rhai sy'n deall Cymraeg.Yn fwy cyffredinol, wrth enwi ein deddfwrfa yn ffurfiol dymunaf weld ein dwy iaith swyddogol yn cael eu trin yn gyfartal.”

Fodd bynnag, mewn ymateb, dywed Cadeirydd Cymdethas yr Iaith Bethan Ruth na soniodd y Prif Weinidog ddim un gair am unrhyw gwestiynau technegol o ddrafftio yn y cyfarfod hwnnw:

“Mae sawl aelod o’r Gymdeithas yn eich ystyried fel gwleidydd egwyddorol ac anrhydeddus. Yn ôl dirprwyaeth y Gymdeithas fuodd yn y cyfarfod gyda chi ym mis Gorffennaf eleni, ni sonioch ddim gair am unrhyw reswm dros ychwanegu enw Saesneg i'r ddeddfwriaeth fel yr honnir yn eich llythyr. Nid ydym yn defnyddio’r geiriau hyn yn ysgafn: rydych wedi bod yn anonest ar y mater hwn. Hoffem felly dderbyn ymddiheuriad am y celwydd hwnnw yn eich llythyr atom.

“Mae’n glir o’n cyfarfod gyda’r Prif Gwnsler Deddfwriaethol nad oes rhwystr cyfreithiol i nodi enw uniaith Gymraeg yn y ddeddfwriaeth.”

Parha’r llythyr:

“Y ffordd orau o sicrhau mai enw Cymraeg yw’r norm yw peidio â rhoi enw Saesneg ar y sefydliad o gwbl. O’r Knesset, i’r Dáil a’r Bundestag - mae enwau seneddau ar draws y byd yn cael eu defnyddio a’u deall yn rhyngwladol, ac yn ddatganiad o hyder y cenhedloedd hynny ynddyn nhw eu hunain a statws eu hieithoedd.

“Nid ydym yn deall pam nad ydych chi wedi cadw at eich gair i ni ac eraill. Mae nifer o’n haelodau, oedd â pharch tuag atoch, wedi’u siomi’n fawr gan eich tro pedol ar y mater hwn. Gobeithiaf yn fawr y byddwch chi fel Llywodraeth yn ail-ystyried eich safbwynt ac yn cefnogi enw uniaith Gymraeg yn ystod cyfnod 3 y Bil.”