Gofynnwch i’r Llywodraeth am Amser i Newid Cynllun Datblygu Sir Gâr

Aeth dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith at Neuadd y Sir Caerfyrddin gyda chopi mawr o lythyr i’w lofnodi gan arweinwyr a swyddogion y Cyngor Sir yn gofyn i’r llywodraeth ganiatáu tri mis ychwanegol o amser i ddiwygio’r Cynllun Datblygu Lleol drafft (a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus) er mwyn iddo fod “yn seiliedig ar dystiolaeth i anghenion cymunedau lleol Sir Gâr yn hytrach na thrin y sir fel cronfa i wasanaethu anghenion tybiedig Rhanbarth Bae Abertawe”

Ar ran Rhanbarth Caerfyrddin o Gymdeithas yr Iaith, esboniodd Ffred Ffransis: “Mae llythyr gan y llywodraeth at y Cyngor yn caniatáu 3 mis o amser ychwanegol yng Nghytundeb Cyflenwi’r Cynllun Datblygu Lleol os bydd angen. Mae’n amlwg bod yr angen wedi codi’n awr. Nid cynllun sy’n seiliedig ar ofynion cymunedau Sir Gâr sydd yn y ddrafft hon. Cynllun y Cyn-Brif Weithredwr Mark James yw hwn, yn ddarlun o’i weledigaeth o Sir Gâr fel cronfa i wasanaethu anghenion tybiedig Rhanbarth Bae Abertawe. Cynllun ar gyfer datblygwyr tai yw hwn, nid cynllun i ateb gofynion cymunedau Sir Gâr.

“Mae arweinwyr a swyddogion newydd y Cyngor, ar y llaw arall, wedi mabwysiadu cynnig i wneud y sir gyfan yn ardal o bwysigrwydd i’r Gymraeg, ac felly bod angen mesur pob datblygiad o ran ei effaith ar yr iaith. Cyhoeddodd y Cyngor newydd hefyd strategaeth ar gyfer cymunedau gwledig, sydd yn sail i drafodaeth a gweithredu ac mae gwaith yn mynd rhagddo i baratoi cynlluniau ar gyfer deg ardal wledig yn y sir, sydd yn cynnwys adnabod anghenion y cymunedau am dai a gwasanaethau. Ond mae Cynllun Datblygu Lleol Mark James yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori fisoedd cyn bod yr adroddiadau hyn yn barod. Ni all y CDLl hwn felly adlewyrchu anghenion ein cymunedau at y 2020au; yn hytrach mae’n adlewyrchu gofynion cynlluniau’r ddegawd ddiwethaf sy’n brysur fethu.

“Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar arweinwyr a swyddogion y Cyngor i lofnodi’r llythyr yn gofyn i’r llywodraeth am dri mis ychwanegol i ailasesu’r holl ffeithiau ac ystadegau perthnasol, a seilio targedau cynllun diwygiedig ar dystiolaeth i anghenion ein cymunedau"

Mae manylion ymgynghoriad y cyngor i'r CDLl Adneuo drafft i'w gweld yma, a'r ymgynghriad ar agor nes y 13eg o Fawrth. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn llunio ymateb i'w gyflwyno yma o fewn wythnos. Bydd yr ymateb yn cael ei gyhoeddi yma er mwyn i eraill ei ddefnyddio fel templad ymateb.