Gohirio gweithredu yn erbyn y Llywodraeth

bethan-jenkins-ac.jpgGwelliannau i'r Mesur Iaith ar y bwrdd - pleidlais hanesyddol gan Aelodau Cynulliad CymruMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi penderfynu gohirio ei ymgyrch yn erbyn y Llywodraeth, a welodd 6 person yn cael eu harestio wythnos ddiwethaf, ar ôl i Aelod Cynulliad gyflwyno gwelliant i'r Mesur Iaith Gymraeg a fyddai'n sefydlu hawliau i'r Gymraeg.Dywed y mudiad ei fod wedi penderfynu atal ymgyrchu di-drais dros dro er mwyn rhoi cyfle i Aelodau Cynulliad gefnogi'r ddau welliant sydd wedi eu cyflwyno gan yr Bethan Jenkins AC.Cyflwynodd Bethan Jenkins AC welliant a fydd yn sefydlu hawliau i bobl ddefnyddio Gymraeg yn gyffredinol, yn ogystal â gwelliant a fydd yn sicrhau statws swyddogol diamod i'r Gymraeg.Cefnogir y gwelliant ar hawliau gan y bargyfreithiwr Gwion Lewis, awdur Hawl i'r Gymraeg lle ysgrifennodd yr achos am hawliau i ddefnyddio'r iaith Gymraeg.Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymgyrchu am hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwasanaethau i fod yn rhan o'r Mesur Iaith. Roedd hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg yn un o addewidion Cymru'n Un am y Mesur Iaith. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo'r mesur o fod yn ddiffygiol oherwydd nad yw'n gwarantu gwasanaethau Cymraeg gwell yn y dyfodol oherwydd penderfynir ar y safonau gan weinidog y dydd.Dywedodd Ceri Phillips, Cadeirydd y Gr?p Hawl i'r Gymraeg:"Rydym yn llongyfarch Bethan Jenkins ar gyflwyno gwelliannau a fyddai'n trawsnewid tirlun ieithyddol Cymru. Pe bai'r Cynulliad yn pleidleisio dros gynnwys hawliau, gallasai'r Mesur Iaith wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl Cymru. Byddai'n golygu y gallai pobl ddisgwyl gwasanaethau Cymraeg yn hytrach na gorfod cwyno drwy'r amser a dewis optio i mewn i wasanaethau Cymraeg. Mae statws a hawliau yn dod law yn llaw oherwydd mae hawliau yn ymwneud â pherthynas ymarferol pobl â'u hiaith o ganlyniad i'w statws swyddogol. Dyna pam rydym wedi gohirio ein gweithredoedd uniongyrchol tra bod gobaith o hyd o gynnwys statws a hawliau yn y mesur. Heb y ddau beth hyn, mae'r mesur yn gyfan gwbl diffygiol ac yn dangos diffyg gweledigaeth lwyr.".

"Mae cyfle hanesyddol gan Aelodau Cynulliad i bleidleisio am y tro cyntaf i sicrhau nad mesur yn dilyn yr hen batrwm Prydeinig fydd hwn, ond mesur blaengar a fydd yn rhoi cyfiawnder i bobl sydd yn cael eu trin yn israddol am eu bod eisiau defnyddio a chael mynediad i'r iaith Gymraeg. Nid mesur iaith i siaradwyr Cymraeg yn unig yw'r mesur hwn ond mesur i bawb o bobl Cymru. Mae'r iaith yn etifeddiaeth gyffredin i bawb sydd wedi dewis gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw. Erfynnwn ar aelodau'r meinciau cefn i ddefnyddio'i pleidlais er mwyn cynnig dyfodol gwell i'r Gymraeg ac i bobl Cymru. Does dim modd i un Aelod Cynulliad osgoi goblygiadau hanesyddol eu pleidlais. Wrth bleidleisio o blaid neu yn erbyn y gwelliannau, fe fydd yr Aelodau Cynulliad yn gwneud eu safbwynt yn hollol glir. Fe fydd ein haelodau ni, a'r cannoedd eraill sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgyrchu a chyflwyno tystiolaeth i sicrhau statws a hawliau a'u llygaid ar y Senedd ddydd Mawrth i weld sut fydd yr Aelodau Cynulliad yn pleidleisio."