Gollwng 2 dunnell o 'Fynydd Cerrig' wrth bencadlys Cyngor Sir Caerfyrddin

Protest Ysgol MynyddcerrigMae Cymdeithas yr Iaith wedi cadw ei haddewid na fyddai Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael cau Ysgol Mynyddcerrig heb wrthwynebiad. Mae disgwyl i'r Bwrdd Gweithredol gwrdd mewn sesiwn gyhoeddus am 10am i gadarnhau argymhellion y swyddogion addysg i gau Ysgol Mynyddcerrig.

Tra'r oedd y Bwrdd Gweithredol mewn cyfarfod caeedig tu fewn i adeilad y Cyngor Sir rhwng 9am a 10am, Cafodd 2 dunnell o gerrig ei ddadlwytho wrth brif fynedfa cerbydau adeilad y Cyngor Sir. Cafodd y tryc mawr ei yrru gan Ffred Ffransis, cadeirydd Grwp Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, gyda chymorth dwsinau o gefnogwyr a rhieni ysgol Mynyddcerrig.llun_protest_cerrig_caerfyrddin.jpgYn y cyfamser, mae Cymdeithas yr Iaith yn gofyn i aelodau pwyllgor archwilio addysg y Cyngor Sir i 'alw i mewn' cynlluniau'r Bwrdd Gweithredol.DIWEDDARIAD: Torri ar draws Cyfarfod y Bwrdd GweithredolYn dilyn protestiadau cynharach tu allan i bencadlys Cyngor Sir Caerfyrddin bore yma, pan gafodd dwy dunnell o 'Fynydd Cerrig' ei ollwng wrth fynedfa cerbydau'r adeilad, fe wnaeth rhieni Ysgol Mynyddcerrig ynghyd ac aelodau o Gymdeithas yr Iaith, dorri ar draws Cyfarfod Gr?p Gweithredol y Cyngor Sir.llun_protest_mynyddcerrig2.jpgRoedd y protestwyr yn disgwyl clywed trafodaeth ar y mater, ond cymaint yw dirmyg y Cyngor Sir tuag at Ysgol Mynyddcerrig, ac ysgolion pentrefol eraill, yr unig beth ddywedwyd oedd "All in favour of point 3?" a'r Cynghorwyr oll yn pleidleisio o blaid cau'r ysgol.Gweiddodd Iestyn ap Rhobert, Cadeirydd dros dro Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin, o'r galeri cyhoeddus fod y cyfarfod, fel yr ymgynghoriad, yn ffars lwyr, a bod gan y Cynghorwyr nawr y cyfle i wrando ar farn y rhieni. Yna, cododd nifer o'r rhieni ar eu traed, a dechrau gweiddi eu gwrthwynebiad i'r cynlluniau i gau Ysgol Mynyddcerrig.