Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu’r newyddion nad yw’r Llywodraeth yn mynd i fwrw ymlaen gyda'u cynlluniau i gyflwyno Bil y Gymraeg, yn dilyn rhybuddion y byddai’n gwanhau hawliau iaith.
Dywedodd Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
“Mae’n newyddion ardderchog. Mae angen i'r Llywodraeth fynd ati nawr i ganolbwyntio ar gyflawni eu gweledigaeth ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae’n hollbwysig hefyd bod y Llywodraeth yn bwrw ati ar unwaith i ddechrau cyflwyno’r Safonau i feysydd fel cwmnïau post, ynni, trydan, dŵr a thelathrebu. Er gwaetha’r newyddion da heddiw, mi fyddwn ni’n cadw llygad barcud i sicrhau na fydd dim ymdrechion i wanhau’r gyfundrefn reoleiddio mewn unrhyw ffordd.”