Gorymdeithio o Nefyn i Gaernarfon

Bu cynghorwyr Tref Nefyn yn gorymdeithio o Nefyn i Gaernarfon ddydd Sadwrn 26ain o Fedi i godi sylw am yr argyfwng dai. Roedden nhw'n cychwyn o Nefyn ac yn cerdded yr holl ffordd i Gaernarfon, gyda rhai yn ymuno ar hyd y ffordd, ar y cyd â'r ymgyrch 'Nid yw Cymru ar Werth'.

Rhwng Mawrth 2019 ac Ebrill 2020, roedd 38% o dai a werthwyd yng Ngwynedd yn ail gartefi, tai haf, neu yn dai gwyliau. Mae'r sefyllfa wedi gwaethygu yn sgil Covid-19 gyda llawer o bobl yn dod o'r dinasoedd i dreulio'r cyfnod clo yn eu hail gartrefi ym Mhen Llŷn. Erbyn hyn mae llawer o dai sy'n mynd ar y farchnad wedi eu gwerthu mewn dim, am bris fyddai llawer o bobl lleol methu fforddio, yn enwedig mewn ardaloedd hardd ac ar lan y môr fel Nefyn. 

Mae Cyngor Tref Nefyn yn pryderu fod pethau'n mynd o ddrwg i waeth yn Nefyn ac yn llawer o gymunedau eraill yr ardal. Bwriad yr orymdaith oedd i godi ymwybyddiaeth am ddifrifoldeb y sefyllfa ac i alw ar Cyngor Gwynedd i geisio cael pwerau y farchnad dai wedi ei ddatganoli i'r cyngor ac i weithredu'n gyflym i ddeddfu. Roedd llawer o brotestwyr eraill tu allan i adeilad Cyngor Gwynedd yn disgwyl am y gorymdeithwyr i'w cefnogi, yn cynnwys aelodau o Ranbarth Gwynedd a Môn a'r ymgyrch cenedlaethol 'Nid yw Cymru ar Werth'. Mae'r ymgyrch yn parhau ac mae Cyngor Tref Nefyn yn galw ar unrhyw un sy'n pryderu am y sefyllfa yn eu cymunedau nhw i wneud yr un fath ar brynhawn Sadwrn.