Gwahodd Prif Weithredwr i brotestio gyda Sion Corn

deddf_iaith_newydd.gifMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gwahodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr newydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg i brotest yng Nghaerfyrddin o dan arweiniad Sion Corn.

Cynhelir y brotest sydd yn cael ei galw yn 'Trip Siopa Dros Ddeddf Iaith Newydd' am 1 oír gloch Dydd Sadwrn Rhagfyr 6ed yng Nghaerfyrddin a bydd y brotest yn cychwyn tu allan i Siop Argos yn Stryd y Brodyr Llwydion gan ymweld wedyn a siopau cadwyn eraill yn y dre.Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Ein bwriad wrth fynd ar y 'daith siopa' hon yw dangos mor aneffeithiol fu'r Ddeddf Iaith a basiwyd ddeng mlynedd yn ôl i sicrhau lle i'r Gymraeg yn y sector breifat."protestdoligcaerfyrddin.jpg"Mae'n fater o dristwch i ni fod Prif Weithredwr newydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg eisoes wedi datgan nad oes angen Deddf Iaith ac mai perswad ac ewyllys da yw'r ffordd ymlaen. Yr ydym yn ei wahodd ar y 'daith siopa' hon er mwyn profi iddo pa mor gyfeiliorunus yw ei eiriau. Ond byddwn yn gwneud hynny mewn ysbryd o ewyllys da a dyna pam mae Sion Corn wedi cytuno i arwain y daith. Ein gobaith yw y bydd hwn yn ddigon o brofiad i argyhoeddi Meirion Prys Jones o'r angen am Ddeddf Iaith newydd ac y bydd yn gwneud adduned blwyddyn newydd i sefyll gyda Cymdeithas yr iaith Gymraeg a mynnu fod Deddf o'r fath yn cael ei phasoio."