Beirniadu Llywodraeth Cymru am wanhau cynllun datganoli darlledu - Gweinidog yn anwybyddu’r ‘ffordd goch Gymreig’

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi na fydd yn parhau â chynlluniau i sefydlu Corff Cynghori ar Ddarlledu a Chyfathrebu i Gymru, yn groes i addewid.
Mewn datganiad ym mis Mawrth 2024, fe wnaeth Dawn Bowden, y Gweinidog Diwylliant ar y pryd, gyhoeddi bwriad i sefydlu corff fyddai, ymhlith pethau eraill, yn “archwilio cynlluniau ar gyfer fframwaith darlledu a chyfathrebu amgen pe bai darlledu yn cael ei ddatganoli a bydd yn parhau i adolygu'r achos dros sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu i Gymru yn y dyfodol.”

Mae cyhoeddiad heddiw (12/05/2025) yn dweud mai  "Cymru Greadigol a rhanddeiliaid darlledu a'r cyfryngau" fydd yn gwneud gwaith cynghorol ar ddarlledu, yn hytrach na bod corff penodedig yn cael ei greu. Mae’n cyfeirio hefyd at geisio "[t]rywydd fframwaith cryfach ar gyfer darlledu a mwy o lais i Gymru" sydd, yn bell iawn o fod yn ymrwymiad i ddatganoli grymoedd darlledu.

Mae'r  penderfyniad yn gwbl groes i’r rhethreg a glywyd mewn araith ar 6 Mai gan Eluned Morgan, prif weinidog Cymru, wythnos diwethaf.

Dywedodd Carl Morris, Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith:

Lai nag wythnos ers i Eluned Morgan feirniadu Llywodraeth Keir Starmer yn Llundain am ddangos diffyg parch at ddatganoli, mae ei llywodraeth hi ei hun yn gollwng addewid clir a hollbwysig i ddatganoli grymoedd dros ddarlledu ar gyfer y dyfodol agos. Yn lle creu corff annibynnol penodedig i baratoi’r ffordd ar gyfer datganoli grymoedd darlledu, mae'r Llywodraeth yn sôn am weithio'n fewnol drwy Cymru Greadigol. Mae hyn lawer yn llai na'r addewid gan y llywodraeth a lawer yn llai na'r heriau rydyn ni'n eu hwynebu. Yn y pen draw, mae datganoli pwerau darlledu o Lundain i Gymru yn hanfodol ar gyfer ein democratiaeth a'n hiaith, ac mae angen corff penodedig i baratoi'r ffordd ar gyfer hynny nawr.

“Mae Llafur wedi methu prawf cyntaf eu rhethreg newydd ar sefyll dros Gymru a thros ddatganoli. Nid "Ffordd Goch Gymreig" yw hon. Galwn ar y Llywodraeth i wrthdroi'r penderfyniad diweddaraf yma a mynd ati i sefydlu’r corff.

“Ar adeg pan mae sawl bygythiad i ddemocratiaeth gan yr adain dde eithafol, diffyg gwybodaeth a’r diffyg democrataidd, mae angen gweithred bendant i gryfhau'r sector darlledu, dal gwleidyddion i gyfrif, a sicrhau darpariaeth darlledu er budd y Gymraeg a’n cymunedau. Mae pobl yn cael gwybodaeth o ystod eang iawn o ddarparwyr a chyfryngau. Mae’n fwy pwysig nag erioed bod amrediad o gyfryngau gyda ni yn adlewyrchu’n cymdeithas heddiw, ac yn Gymraeg.”