Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu llwyddiant ymdrechion eu haelodau lleol ar ôl i Gyngor Merthyr ddarparu gwefan sydd yn rannol ddwyieithog, ond wedi mynegi pryderon am ddiffyg darpariaethau Cymraeg eraill gan y cyngor.
Wedi blwyddyn o ymgyrchu gan aelodau lleol a arweiniodd at ymchwiliad gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg aeth gwefan ddwyieithog y cyngor ar-lein ddechrau’r flwyddyn newydd.
Cafodd pryderon eu codi flwyddyn yn ôl pan ddaeth hi’n amlwg nad oedd y cyngor yn cyflawni ei gynllun iaith. Honnodd siaradwyr Cymraeg lleol nad oedd y cyngor yn gweithredu ei gynllun iaith gan gynnwys methu â darparu gwefan ddwyieithog.
Darganfu ymchwiliad gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg (bellach Comisiynydd y Gymraeg), a sbardunwyd gan gwynion gan grŵp lleol Cymdeithas yr Iaith, bod y Cyngor wedi torri ei gynllun iaith mewn 4 allan o 5 maes.
Meddai Carl Morris llefarydd Morgannwg Gwent Cymdeithas yr Iaith: ‘Rydym yn croesawu’r datblygiad diweddaraf yma ac rydym yn edrych ymlaen at ddyfodiad gwefan gwbl ddwyieithog. Ar hyn o bryd mae’r tudalennau blaen ar gael yn y Gymraeg, sydd yn welliant mawr ar y sefyllfa fel yr oedd, ond mae 'na fylchau mawr o ran ffurflenni uniaith Saesneg a gwybodaeth sylfaenol hanfodol.’
Ychwanegodd: “Fe fyddwn yn parhau i drafod gyda’r cyngor a gyda swyddfa’r Comisiynydd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau Cymraeg Cyngor Merthyr yn gwella. Nid yw’n iawn fod rhaid i’n haelodau orfod bygwth y cyngor gydag ymchwiliadau oherwydd eu bod nhw’n torri’r gyfraith wrth beidio â darparu gwasanaethau Cymraeg. Mae rhaid iddyn nhw ddeall bod nifer cynyddol o bobl yn y sir eisiau byw yn Gymraeg, neu eisiau i’w plant allu byw yn yr iaith. Mae rhaid i weithredoedd y cyngor fod cystal ag uchelgais pobl leol.”
Daw’r newyddion wedi gwrthdystiad gan ddau gant o bobl o flaen swyddfeydd y Cyngor Sir yn gynharach yn y mis fel rhan o ymgyrch ‘dwi eisiau byw yn Gymraeg’ y mudiad.