Heddiw, wrth agor pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin cyhoeddodd Jeremy Wright, Ysgrifennydd Gwladol San Steffan dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon nad oedd erioed wedi gwylio'r sianel.
Mewn ymateb, dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Grŵp Ymgyrchu Dyfodol Digidol Cymdeithas yr Iaith fod hyn yn warthus, yn siomedig, yn drist ond nid oedd wedi synnu.
Dywedodd: "Y mae'r sylwadau hyn gan Ysgrifennydd Gwladol San Steffan yn cadarnhau bod angen datganoli grymoedd darlledu i Gymru. Pa synnwyr sydd fod grymoedd dros reoleiddio a gwneud penderfyniadau am ddarlledu yn gorwedd yn nwylo sefydliad mewn gwlad arall. Y mae'n hollol warthus nad yw Jeremy Wright erioed wedi gwylio S4C ac yn dangos yn glir nad fe – nag unrhyw weinidog arall yn San Steffan – ddylai fod yn gyfrifol am ddarlledu yng Nghymru. Galwn eto ar y Llywodraeth yn San Steffan felly i ddatganoli darlledu yng Nghymru, i Gymru."
Y mae Cymdeithas yr Iaith yn cydnabod ac yn croesawu bod llawer o gyhoeddiadau da wedi dod o du Caerfyrddin heddiw, fel Prif Weithredwr S4C yn sôn am strategaeth newydd digidol i hybu'r Gymraeg.
Fodd bynnag, ychwanegodd Heledd Gwyndaf: "Mae angen, ar frys, ddatganoli rheoleiddio i Gymru gan wirioneddol ddad ganoli darlledu, grymuso ein pobl yn lleol i greu a chynhyrchu deunydd a sicrhau ein bod ni yma yng Nghymru yn gyfrifol am gyllideb darlledu. O wneud hyn mi fyddwn ar ein hennill yn eithriadol fel cenedl yn ddiwylliannol, yn ieithyddol ac yn ddemocrataidd."
Y llynedd, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith eu syniadau nhw ar sut y dylid mynd ati i ddatganoli darlledu a sut y byddai ei ariannu. Yn ôl eu dogfen 'Datganoli Darlledu i Gymru', gellid denu llawer mwy o gyllid i ariannu darlledu yng Nghymru wrth nid yn unig ddatganoli'r ffi drwydded ond hefyd trwy osod ardoll ar gwmnïau mawr sydd yn gwneud arian o weithredu yng Nghymru – cwmnïau fel Netflix, YouTube a Facebook.