Mae Gweinidog y Gymraeg wedi cael ei chyhuddo o gamarwain y Senedd drwy honni bod cefnogaeth i'w chynlluniau i newid deddfwriaeth iaith mewn cwyn swyddogol, cyn iddi wneud datganiad ar y mater heddiw (dydd Mawrth, 5ed Mehefin).
Daw'r newyddion wedi i ymgyrchwyr ryddhau llythyr gan y Gweinidog lle mae'n cyfaddef bod yr ystadegau a gyhoeddwyd am yr ymgynghoriad ar Fil y Gymraeg yn anghywir, ond eto nad yw'n fodlon cyhoeddi'r ffigyrau cywir. Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod mwyafrif clir yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad wedi gwrthwynebu cynigion papur gwyn y Llywodraeth i ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg, cyfyngu ar allu pobl i gwyno a gwanhau pwerau i sicrhau bod cyrff yn cadw at eu dyletswyddau iaith – fframwaith tebyg iawn i hen Ddeddf Iaith 1993.
Mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Ionawr, honnodd y Gweinidog Eluned Morgan y “cefnogwyd ein cynigion gan y sawl a ymatebodd i’r ymgynghoriad” – er mai dim ond 77 o'r 504 o ymatebion oedd yn cefnogi eu cynnig i ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg. Ers y datganiad hwnnw, mae'r gwasanaeth sifil wedi cyfaddef bod 'sail i gŵyn' Cymdeithas yr Iaith nad oedd y Llywodraeth wedi crynhoi ymatebion i'r ymgynghoriad ar gynlluniau'r Papur Gwyn yn iawn. Daeth yr adolygiad mewnol i'r casgliad y dylai canllawiau am sut i grynhoi ymatebion i ymgynghoriadau newid. Fodd bynnag, er gwaetha'r cyfaddefiad hwnnw, mewn llythyr diweddar at Gymdeithas yr Iaith, meddai'r Gweinidog mai'r "unig beth fyddai’n newid yn y dyfodol wrth newid y canllawiau mewnol i swyddogion y Llywodraeth, fyddai cyhoeddi’r niferoedd ystadegol yn y dadansoddiadau unigol i bob cwestiwn... Ni fydd ein hystyriaeth bellach o’r materion polisi yn newid o ganlyniad i ddeilliant y gŵyn hon".
Mae'r mudiad bellach wedi gwneud cwyn swyddogol wrth yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Prif Weinidog am yr ymddygiad gan honni ei fod yn 'gamarweiniol, afresymol ac yn amharchu'r broses ymgynghori'.
Meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'r hyn mae'r Gweinidog wedi'i ddweud yn ei datganiad yn camarwain y Senedd. Ac er eu bod yn derbyn bod y datganiad yn un ffals, maen nhw'n gwrthod ei gywiro. Mae'n trin y broses ymgynghori gyda dirmyg llwyr. Mae'r Llywodraeth wedi camarwain a chamweinyddu. Maen nhw'n ceisio cuddio'r ffaith nad yw pobl Cymru eisiau'r ddeddf iaith wannach mae'r Llywodraeth yn ceisio'i gwthio drwodd.
"Mae'r sefyllfa yn un chwerthinllyd. Does dim mandad gan y Llywodraeth i wanhau'r Ddeddf Iaith. Dim ond tua 15% o'r rhai a ymatebodd i'w hymgynghoriad oedd yn cefnogi'r cynigion annoeth yma, a doedd y bwriad i wanhau'r ddeddf ddim ym maniffesto Llafur chwaith.
"Pwy fyddai'n meddwl bod Llafur yn mynd i glodfori hen system y Torïaid o chwarter canrif yn ôl? Byddai'n llawer gwell i swyddogion ganolbwyntio ar waith arall, gan gynnwys gosod Safonau ar ragor o gyrff a chwmnïau, yn hytrach na gwastraffu amser ar bapur gwyn a fyddai, o'i weithredu, yn troi'r cloc yn ôl i gyfnod Deddf Iaith 1993 wnaeth fethu amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg."