Gweinyddiaeth Gymraeg Cyngor Ynys Môn - galw i wrthwynebu cynnig i'w danseilio

Mae mudiad iaith wedi galw ar i gynghorwyr wrthwynebu cynnig i wrthdroi polisi Cyngor Sir Ynys Môn o symud tuag at weinyddu'n fewnol drwy'r Gymraeg. 

Mae'r Cynghorydd Annibynnol Shaun Redmond wedi cyflwyno cynnig, a gaiff ei drafod wythnos nesaf, i atal camau tuag at wneud y Gymraeg yn brif iaith gweinyddiaeth fewnol y Cyngor. 

Mewn ymateb i'r newyddion, dywedodd Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

“Rydyn ni'n galw ar i gynghorwyr wrthwynebu'n gryf y cynnig yma, sy'n ymdrech i danseilio camau bach y cyngor tuag at weithio drwy'r Gymraeg. Byddwn ni'n ysgrifennu at bob cynghorydd i erfyn arnyn nhw i wneud safiad dros y Gymraeg ac yn erbyn agwedd adweithiol y cynghorydd yma. Dylai'r Cyngor fod yn symud yn syth at weinyddu drwy'r Gymraeg yn unig, wedi'r cwbl mae Gwynedd eisoes yn gwneud hyn. Dyna'r arfer gorau o ran polisïau iaith, rhywbeth a fydd yn golygu bod y cyngor yn beiriant i greu siaradwyr Cymraeg hyderus. Mae sefydliadau sy'n gweithio drwy'r Gymraeg yn unig yn rhoi hyder i bobl ddysgu a defnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd.  

"Rydym yn falch fod y Safonau a'r ddyletswydd i gynyddu defnydd mewnol y Gymraeg yn benodol, wedi bod yn sbardun i’r Cyngor wella. Ledled y wlad, mae'r Safonau yn dechrau gwneud gwahaniaeth gyda chynnydd sylweddol yn y nifer o swyddi lle mae angen sgiliau Cymraeg." 

Mae cynnig y Cynghorydd yn nodi bod y cyngor yn 'symud i bolisi o amgylchedd gweithio Cymraeg iaith gyntaf a’r baich ariannol cysylltiedig â’r gwahaniaethu sydd ynghlwm â hynny...' 

Ychwanegodd Menna Machreth o Gymdeithas yr Iaith: 

"Mae'n debyg bod Mr Redmond wedi camddeall y polisi.  Nid yw'r polisi yn awgrymu creu amgylchedd lle mae pawb yn siaradwyr Cymraeg 'iaith gyntaf': mae pobl yn gallu dysgu.  Mae'r polisi yn symud tuag at ddefnyddio'r Gymraeg fel iaith weinyddol fewnol y Cyngor. Nid yw gweinyddu yn Gymraeg yn creu baich ariannol ychwanegol.  Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau'n ddwyieithog, felly mae hyn yn golygu darparu dogfennau cyhoeddus yn y ddwy iaith, pa iaith bynnag a ddefnyddir ar gyfer y fersiwn gwreiddiol. Mae'n fwy cost effeithiol i gyflogi un person dwyieithog na chyflogi un person uniaith."